Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 17 Chwefror, rhoddais y wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am hynt ein cynlluniau i leihau'r terfyn cyflymder mewn ardaloedd 30mya i 20mya.

Hysbyswyd yr Aelodau ein bod yn treialu terfynau cyflymder o 20mya mewn wyth anheddiad ledled Cymru er mwyn ein galluogi i oresgyn unrhyw faterion nas rhagwelwyd cyn inni fwrw ymlaen â'r broses gyflwyno genedlaethol ym mis Ebrill 2023.

Rwyf bellach wedi cymeradwyo’r cyllid grant parhaus o £1,086,565 ar gyfer yr aneddiadau peilot / camau cyntaf gweithredu terfyn 20mya. Mae'r holl awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan wedi dechrau gweithio ar y prosiect yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf ac rwy'n hynod ddiolchgar am y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud.

Bydd yr arian newydd hwn yn helpu i sicrhau bod yr awdurdodau sy'n cymryd rhan yn gallu parhau i gyfrannu at y pecyn cymorth; cynnal ymgyngoriadau; dylunio a gweithredu'r cynlluniau, a threialu nodweddion dylunio newydd; prynu cyfarpar monitro; casglu data ar gyfer monitro;, a phrosesu'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig sy’n ofynnol i gyflwyno'r terfyn cyflymder. Statws presennol yr 8 Anheddiad sy’n rhan o’r cam cyntaf yw:

  • Sir Benfro (Llandudoch) – Gweithredol
  • Bro Morgannwg (Saint-y-brid) – Gweithredol
  • Sir Gaerfyrddin (Gogledd Llanelli) – Gweithredol
  • Caerdydd (Gogledd-orllewin Caerdydd) – C4 2021 i gael ei gadarnhau
  • Castell-nedd Port Talbot (Pentref Cilfrew) – C4 2021 / C1 2022 i gael ei gadarnhau
  • Sir Fynwy (Y Fenni a Glannau Hafren) – C1 2022 i gael ei gadarnhau
  • Sir y Fflint (Bwcle) – C1 2022 i gael ei gadarnhau

Mae'r cyllid yn cael ei ddarparu drwy ein Grant Diogelwch ar y Ffyrdd. Mae'r grant hwn wedi'i gynllunio'n benodol i gael effaith gadarnhaol mewn cymunedau, yn enwedig lleihau nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd yng Nghymru a hefyd wella gallu cymunedau ledled y wlad i fyw ynddynt. 

Mae'r dystiolaeth yn glir: mae lleihau cyflymderau yn lleihau damweiniau ac yn achub bywydau. Ochr yn ochr â hyn bydd ansawdd bywyd yn gwella, gan greu lle ar ein strydoedd ar gyfer teithio llesol mwy diogel. Mae hyn yn helpu i leihau ein heffaith amgylcheddol ac mae'n cael effaith gadarnhaol ar ein lles corfforol a meddyliol.

Os nad yw Aelodau eisoes wedi gwneud hynny, byddwn hefyd yn eich annog chi a'ch etholwyr i gymryd rhan yn ein hymgynghoriad ar y cynnig i ostwng y terfyn cyflymder ar strydoedd preswyl i 20mya. Daw'r ymgynghoriad i ben ar 1 Hydref 2021.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Pe bai'r Aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn fodlon gwneud hynny.