Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn fy natganiad ar 22 Mawrth 2022 ar Barc Ynni Baglan, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cael caniatâd i apelio yn erbyn y penderfyniad a wnaed yn yr Uchel Lys.  Yr wyf yn awr yn cymryd y camau angenrheidiol i ffeilio'r apêl honno, erbyn dydd Llun 4 Ebrill, yn unol â'r Gorchymyn Llys.

Ar yr un pryd ag y rhoddwyd caniatâd i apelio, mae Barnwr yr Uchel Lys yn y mater hwn hefyd wedi gorchymyn bod pŵer i Barc Ynni Baglan yn cael ei gynnal hyd nes y penderfynir ar ganlyniad yr apêl honno.

Byddwn yn parhau i weithio gyda'r holl bartïon perthnasol i geisio sicrhau ateb i'r risgiau sylweddol iawn o iechyd y cyhoedd a niwed amgylcheddol gan gynnwys mwy o berygl llifogydd (yn ogystal â'r risgiau i'r economi leol) y byddai terfynu'r cyflenwad ynni gwifren preifat yn ei greu i fusnesau a dinasyddion ym Maglan, cyn i'r rhwydwaith dosbarthu newydd fod ar waith.

Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am unrhyw ddatblygiadau pellach.