Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Aelodau'n ymwybodol bod Baglan Operations Limited a Grŵp Cwmnïau Baglan wedi cael eu diddymu'n orfodol ar 24 Mawrth 2021. Penodwyd Derbynnydd Swyddogol o Wasanaeth Ansolfedd Llywodraeth y DU yn ddiddymwr, ac mae wedi bod yn cyflawni dyletswyddau statudol i sicrhau bod gweithrediadau'r cwmni'n cael eu dirwyn i ben mewn modd diogel. Mae'r rhain wedi cynnwys parhau i ddarparu’r unig gyflenwad trydan i Barc Ynni Baglan drwy rwydwaith gwifrau preifat sy'n gysylltiedig â safle ynni Baglan, sydd bellach wedi'i gau.

Fis Medi diwethaf, mewn ymdrech i gefnogi busnesau yr effeithiwyd arnynt a lleihau’r tarfu arnynt cymaint ag y bo modd, cyhoeddais fod Llywodraeth Cymru wedi contractio Western Power Distribution (WPD) i ddylunio ac adeiladu rhwydwaith newydd ar gyfer Parc Ynni Baglan, ar gost o tua £3 miliwn. Mae WPD yn gweithio'n gyflym ac mae disgwyl iddynt gwblhau'r gwaith yn gynnar iawn, gyda disgwyl i'r rhan fwyaf o gwsmeriaid fod wedi derbyn cysylltiad newydd erbyn dechrau mis Ebrill 2022.

Yn dilyn fy natganiad ysgrifenedig ar 22 Medi 2021, ddiwedd yr hydref diwethaf, dywedodd y Derbynnydd Swyddogol wrth gwsmeriaid y byddai pŵer drwy'r rhwydwaith gwifrau preifat yn dod i ben ar 14 Ionawr 2022, ar yr un pryd â’i waith ar y diddymu. Byddai hyn yn digwydd nifer o wythnosau cyn i’r trefniadau ar gyfer y rhwydwaith pŵer newydd ddechrau, a byddai angen i fusnesau, gwasanaethau a seilwaith hanfodol ymdopi yn ystod y cyfnod hwn yn bennaf drwy ddefnyddio generaduron diesel. Mae hon yn ffordd fwy costus, lai dibynadwy a llai cynaliadwy o ddarparu ynni, y bwriedir ei defnyddio am gyfnodau byr yn unig. Nid ydym yn credu y byddai'r canlyniad hwn er budd y cyhoedd.

Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau i ymyrryd ym mhrosesau’r Derbynnydd Swyddogol ar gyfer gwneud penderfyniadau; nid yw Llywodraeth y DU (yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS)) ychwaith wedi llwyddo i nodi unrhyw ddulliau cymesur neu briodol ar gyfer ymyrryd. Yn ystod yr wythnosau ers cyhoeddiad y Derbynnydd Swyddogol, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal trafodaethau helaeth â'r holl bartïon perthnasol, gan gynnwys Gweinidogion BEIS ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, i geisio sicrhau ateb synhwyrol i'r problemau sylweddol iawn y byddai atal y cyflenwad ynni drwy’r rhwydwaith gwifrau preifat yn eu creu ar gyfer busnesau a dinasyddion ym Maglan. Mae'r rhain yn cynnwys, yn anad dim, niwed economaidd, a risgiau uwch o lifogydd a llygredd.

Ar ôl ystyried pob opsiwn arall, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, Dŵr Cymru, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, ynghyd â'r cwmni mwyaf ar y Parc Ynni, Sofidel, achosion cyfreithiol yr wythnos diwethaf i geisio atal y Derbynnydd Swyddogol rhag cau’r rhwydwaith gwifrau preifat, wrth inni aros i'r ateb tymor hwy gael ei roi ar waith. Yn ystod yr wythnos nesaf, rydym yn disgwyl i ddyddiad gael ei bennu ar gyfer y gwrandawiad llys perthnasol. Ar hyn o bryd mae'r pŵer yn parhau i gael ei gyflenwi, ac mae’r Derbynnydd Swyddogol wedi cytuno i beidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â datgysylltu'r cyflenwad ynni nes bod yr holl gamau cyfreithiol wedi cael eu cwblhau.

Rhaid i'r achos cyfreithiol gael ei gwblhau ond, gan weithio gyda phartneriaid, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ei gallu i ddiogelu iechyd, diogelwch a lles y rhai y gallai unrhyw darfu ar y cyflenwad pŵer effeithio arnynt. Mae'r ymdrechion hyn yn cynnwys trafodaethau parhaus â Llywodraeth y DU ynghylch y pwerau y gallant eu defnyddio i helpu i ddatrys y sefyllfa anodd hon.