Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch sut y mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru, Awdurdodau Lleol a phartneriaid eraill yn bwriadu darparu gwasanaethau cadarn ar gyfer cyfnod y gaeaf sydd i ddod, ac ynghylch mesurau gofal brys newydd a fydd yn cael eu treialu dros y gaeaf.

Yn unol â'r pwysau sylweddol a wynebwyd ledled y DU, mae wedi bod, ac yn dal i fod, yn gyfnod anodd iawn ar gyfer staff y rheng flaen sy'n gweithio yn GIG Cymru. Hoffwn ddiolch o galon i'r staff ar draws y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol am eu hymroddiad a'u hymrwymiad yn ystod cyfnod anodd y gaeaf, a thrwy gydol y flwyddyn.

Roedd gaeaf y llynedd yn fwynach ac yn llai eithafol na'r gaeaf blaenorol, ond roedd lefelau gweithgarwch ar gyfer gwasanaethau allweddol yn dal i fod yn uchel ar adegau prysuraf y tymor. Gwelsom fwy o bobl yn mynd i adrannau brys, gan gynnwys mwy o bobl hŷn ac eiddil ag anghenion acíwt. Gwelsom hefyd gynnydd mewn salwch anadlol acíwt ac achosion o salwch gastroberfeddol mewn ysbytai.

Er gwaetha'r pwysau hyn, gwelsom bod cynlluniau manwl ar lefel leol a chenedlaethol yn ffordd o sicrhau mwy o gadernid i gynnal gwasanaethau diogel ac amserol. Dywedodd ysbytai ledled Cymru bod llawer llai o amser yn cael ei dreulio ar y lefel uwchgyfeirio uchaf, o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, ac mewn achosion lle'r oedd safleoedd wedi wynebu mwy o bwysau, roeddent yn gyffredinol wedi gallu adfer y sefyllfa ac isgyfeirio yn gyflymach.

Cefais fy nghalonogi bod y rhan fwyaf o'r bobl yr oedd arnynt angen ymateb ambiwlans brys neu asesiad a thriniaeth mewn adran frys wedi cael eu trin yn amserol. Hefyd, yn gyffredinol, dywedodd gwasanaethau gofal sylfaenol fod y pwysau hyn cael ei rheoli'n well.

Fel yr wyf wedi'i nodi eisoes, mae'r pwysau y mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar draws y system yn eu hwynebu, yn bwysau a wynebir drwy'r flwyddyn. Yn ystod y misoedd diwethaf, mae ein gwasanaethau wedi bod yn ymateb i bwysau ar lefelau tebyg i’r lefelau y byddem fel arfer wedi disgwyl eu gweld dros y gaeaf, neu lefelau uwch mewn rhai achosion. Mae'r pwysau hyn wedi effeithio ar ddangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer gwasanaethau gofal brys, fel cyfnod trosglwyddo cleifion ambiwlans, yr amser a dreulir mewn adrannau brys ac achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal. Mae'r heriau hyn yn aml yn cael eu dwysau gan broblemau capasiti mewn rhannau eraill o'r system ac maent yn dangos patrwm o gynnydd yn y galw ar ein gwasanaethau.

Mae cyfres benodol iawn o heriau yn ein hwynebu yn ystod y gaeaf, ac mae'n bwysig ein bod yn dysgu gwersi o aeafau blaenorol - nid yn unig er mwyn cynllunio ar gyfer y gaeaf sydd i ddod, ond hefyd i ystyried cynlluniau tymor hirach ar gyfer y mathau hyn o bwysau a wynebir drwy'r flwyddyn. Yn unol â 'Cymru Iachach', rhaid gwneud hyn drwy edrych ar fodelau gofal newydd a chyflwyno mentrau llwyddiannus i wasanaethau craidd.

Mae cael mynediad amserol at ofal brys yn broblem system gyfan yr effeithir yn sylweddol arni gan gymunedau, gofal cymdeithasol, gofal sylfaenol, gofal cartref a gofal cartref preswyl, a gwasanaethau gofal ataliol, ac i'r gwrthwyneb. Felly, rwyf wedi egluro wrth GIG Cymru ac Awdurdodau Lleol bod rhaid denu partneriaid o bob rhan o'r system iechyd a gofal cymdeithasol wrth gynllunio ar gyfer y gaeaf er mwyn sicrhau gofal di-dor i bob claf a defnyddiwr gwasanaeth.

Mae'r paratoadau ar gyfer y gaeaf yn mynd rhagddynt ac rydym wedi rhannu'r hyn a ddysgwyd o'r gaeaf diwethaf ag arweinwyr systemau er mwyn llywio'r gwaith cynllunio hwn. Ym mis Mehefin, cynhaliom weithdy cyflawni ar gyfer y gaeaf i amrywiol randdeiliaid, a ddaeth ag arweinwyr clinigol a gweithredol ynghyd o bob rhan o faes iechyd a gofal cymdeithasol. Bu’r cynrychiolwyr yn cydweithio i adolygu'r trefniadau cyflawni ar gyfer y gaeaf a llunio blaenoriaethau ar gyfer gaeaf 2019/20.

I gefnogi cynlluniau lleol, mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu'r gwaith o gyflenwi gwasanaethau gofal brys yn ystod gaeaf 2018/19, gan ddefnyddio mewnbwn gan ystod o ffynonellau gan gynnwys cleifion, Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG, Awdurdodau Lleol, sefydliadau’r trydydd sector a chyrff proffesiynol.

Mae dolen i'r adroddiad isod:

https://llyw.cymru/adolygiad-cenedlaethol-o-ddarparu-gwasanaethau-gofal-brys-ac-argyfwng-yn-ystod-gaeaf-2018-i-2019

Gan ystyried yr hyn a ddysgwyd o'r adolygiad hwn o aeaf 2018/19, ac adborth a dderbyniwyd o'r gweithdy cyflawni yn ystod y gaeaf, mae ychydig o themâu wedi'u datblygu ar y cyd ag arweinwyr clinigol a gweithredol ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd sefydliadau lleol yn defnyddio’r rhain i gyflawni yn ystod gweddill 2019/29, gyda ffocws penodol ar y gaeaf, sef:

  • Gweithio yn y modd mwyaf effeithlon drwy gydweithio ar draws sefydliadau a sectorau
  • Cryfhau cydnerthedd y gofal sylfaenol brys a ddarperir y tu allan i oriau
  • Sicrhau nad yw cleifion yn cael eu cludo a'u derbyn i'r ysbyty yn ddiangen
  • Rhyddhau cleifion i wasanaethau asesu ac adfer
  • Sicrhau capasiti i alluogi pobl i ddychwelyd i fyw yn y gymuned
  • Gwella'r ffocws ar y llwybr anadlol
  • Gwella'r ffocws ar y llwybr ar gyfer pobl eiddil

Mae'r themâu hyn yn canolbwyntio ar sicrhau bod poblogaethau sydd mewn perygl a phoblogaethau agored i niwed yn gallu aros gartref neu yn eu cymuned drwy gamau gweithredu integredig. Maent hefyd yn hybu llif cleifion drwy'r system er mwyn i bobl allu gadael yr ysbyty pan fyddant yn barod i wneud hynny, gan sicrhau bod unrhyw ofal neu gymorth parhaus angenrheidiol yn ei le. Drwy gyflawni’r camau gweithredu hyn, dylid gallu sicrhau mwy o gadernid ar gyfer y gaeaf.

Mae Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru wedi cynnal cyfarfodydd ar gyflawni ar gyfer y gaeaf â chymunedau iechyd a gofal cymdeithasol i olrhain datblygiad eu cynlluniau cyflawni integredig ar gyfer y gaeaf. Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan ail gyfres o gyfarfodydd rhwng mis Hydref a mis Tachwedd, a fydd yn canolbwyntio ar sefydliadau sydd angen rhagor o gymorth.

Mae canllawiau cyflawni ar gyfer y gaeaf hefyd wedi’u darparu, a luniwyd ar y cyd â Chyfarwyddwyr Gofal Sylfaenol, Gofal Cymunedol, a Gwasanaethau Iechyd Meddwl, arweinwyr clinigol cenedlaethol, a thrwy'r rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal heb ei drefnu. Mae cyngor a chymorth cenedlaethol ar ddatblygu cynlluniau lleol ar gael hefyd.

Mae disgwyl i'r cynlluniau terfynol ar gyfer y gaeaf gael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w hadolygu erbyn 23 Hydref, a bydd adborth yn cael ei roi cyn gynted â phosibl wedi iddynt ddod i law er mwyn helpu i fireinio cynlluniau lleol.

I gydnabod yr heriau parhaus a wynebir ym mhob rhan o'r system iechyd a gofal cymdeithasol, rwyf wedi cytuno ar becyn £30m er mwyn helpu i gyflawni gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod gweddill 2019/20, gan ganolbwyntio’n benodol ar y gaeaf. Bydd y cyllid hwn ar gael yn gynharach nag erioed o'r blaen ac mae'n adlewyrchu'r pwysau didostur a wynebir gan wasanaethau ym mhob rhan o'r system.

Rwyf yn credu bod Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol (y Byrddau) yn gyfryngau allweddol sy'n helpu â gwaith cynllunio a chyflawni integredig, felly mae £17m o'r cyllid hwn wedi'i neilltuo i'r Byrddau i'w weinyddu. Dyma'r tro cyntaf i'r Byrddau fod yn rhan uniongyrchol o'r broses cynllunio ar gyfer y gaeaf yn y ffordd hon. Rydym wedi egluro ein bod yn disgwyl i'r broses hon hyrwyddo cynlluniau integredig a rhanbarthol ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn helpu i gyflawni’r Nod Pedwarplyg, drwy wneud penderfyniadau ar y cyd a dod i gytundeb ffurfiol drwy'r Byrddau.

Mae dyraniad o £10m wedi'i wneud yn uniongyrchol i'r Byrddau Iechyd Lleol er mwyn cefnogi camau gweithredu brys a'r gwaith o gyflwyno cynlluniau cyflawni ar gyfer y gaeaf, ochr yn ochr â'r gwasanaeth ambiwlans, Awdurdod Lleol a phartneriaid y trydydd sector.

Rydym wedi egluro bod rhaid i'r cyllid hwn gael ei ddefnyddio i dargedu camau gweithredu sy’n cyd-fynd â’r themâu allweddol a nodwyd ar gyfer y gaeaf, neu gamau gweithredu cysylltiedig. Bydd hyn yn helpu i wella llif cleifion drwy'r system iechyd a gofal cymdeithasol a fydd yn sicrhau'r profiad a'r canlyniadau gorau i gleifion.

Yn unol â'r ymrwymiad a wneir yn Cymru Iachach, sef ein bod am ddarparu arweiniad cryfach ar wneud penderfyniadau ar lefel genedlaethol, bydd £3m yn cael ei gadw'n ganolog i dargedu cyllid ar gyfer blaenoriaethau y cytunir arnynt yn genedlaethol. Mae hyn yn cyd-fynd â'r dull gweithredu a wnaeth sicrhau effaith wirioneddol ar gyfer gaeaf 2018/19.

Fel rhan o’r dull gweithredu cenedlaethol hwn, rwy’n falch o gadarnhau y bydd y gwasanaeth Llesiant mewn Adrannau Brys a Dychwelyd Adref yn Ddiogel, a ddarperir gan y Groes Goch Brydeinig, a’r gwasanaeth Adre o'r Ysbyty i Gartref Iachach a ddarperir gan Gofal a Thrwsio Cymru, yn parhau i gefnogi staff, cleifion a’u teuluoedd yn ystod gaeaf heriol arall.

Soniais yn fy natganiad llafar ym mis Chwefror fod fframwaith ansawdd a chyflawni wedi bod yn cael eu datblygu ac rwyf yn falch o roi gwybod i Aelodau'r Cynlluniad y bydd mesurau gofal brys newydd yn cael eu treialu y gaeaf hwn, sydd wedi'u datblygu ochr yn ochr â chlinigwyr. Dyma fydd y cam cyntaf o waith ehangach i ddatblygu ystod mwy amrywiol o fesurau canlyniadau a phrofiadau clinigol ystyrlon ar draws y system gofal heb ei drefnu, gan ddarparu rhagor o gyd-destun i ddarparu gofal mewn Adrannau Brys.

Hefyd, bydd ffordd well o fesur profiadau cleifion drwy orsafoedd newydd ym mhob adran frys o fis Tachwedd 2019 ymlaen. Bydd hyn yn golygu bod modd casglu gwybodaeth am brofiadau cleifion mewn ffordd gyson ledled Cymru gan helpu i wella gwasanaethau ar sail canlyniadau.

Byddwn hefyd yn profi mesurau newydd 'galwad i'r drws' y gwasanaeth ambiwlans mewn argyfwng, a hynny yng nghyswllt amseroldeb yr ymateb, yr amser a dreulir yn y lleoliad a'r amser cyn i glaf gael ei dderbyn i uned ar gyfer strôc a STEMI (math o drawiad ar y galon).

Rydym yn gwybod bod heriau a oedd yn arfer cael eu cyfyngu i'r gaeaf erbyn hyn yn heriau mawr a wynebir drwy gydol y flwyddyn, gyda'r pwysau i'w teimlo ym mhob rhan o'r system. Nid oes rheswm dros gredu y bydd y gaeaf hwn yn llai heriol o gwbl na'r blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, dylai'r cyfuniad o gamau gweithredu lleol a chenedlaethol ddarparu mwy o gadernid yn erbyn y pwysau anochel a ddaw dros y misoedd nesaf. Fel bob amser, ein nod ar y cyd yw sicrhau'r canlyniadau a'r profiadau gorau i gleifion, yn ogystal â sicrhau bod ein staff yn cael eu cefnogi'n llwyr i gyflawni eu gwaith hanfodol yn ystod y gaeaf hwn.