Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Ym mis Gorffennaf 2011, cadarnhaodd datganiad deddfwriaethol Prif Weinidog Cymru y bwriad i ystyried yr angen am ddeddfwriaeth er mwyn sicrhau canlyniadau gwell ar gyfer y rheini sydd yn y system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru, yn ôl dymuniad y Gweinidogion. Atgyfnerthwyd yr ymrwymiad hwn ymhellach yn y Rhaglen Lywodraethu a chafodd ei gymeradwyo yng nghyfarfod y Cabinet ar 17 Gorffennaf 2012.
Heddiw, rydw i wedi lansio Papur Gwyrdd i ymgynghori ar gynigion i wella gwasanaethau yng Nghymru er mwyn diwallu anghenion plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn rhan o'r system cyfiawnder ieuenctid, neu sydd eisoes yn rhan ohoni.
Yng Nghymru, mae’r system cyfiawnder ieuenctid yn cwmpasu’r materion sydd wedi’u datganoli, materion fel addysg, tai, camddefnyddio sylweddau, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Hefyd, maent yn cwmpasu elfennau o faterion nad ydynt wedi’u datganoli gan gynnwys y llysoedd a’r system gyfiawnder. Mae’r ymgynghoriad yn ystyried beth arall y gellir ei wneud i gryfhau’r gwasanaethau hynny y mae gan Weinidogion Cymru gyfrifoldeb polisi yn eu cylch. Bwriad hyn yw sicrhau bod yr holl bartneriaid sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn rhan o'r system cyfiawnder ieuenctid, yn fwy atebol.
Mae’r plant a’r bobl ifanc sy'n dod yn rhan o'r system cyfiawnder ieuenctid ymhlith rhai o'r bobl ifanc fwyaf difreintiedig yng Nghymru. Gŵyr pob un ohonom fod manteision gwirioneddol i'w cadw allan o drybini - byddwn nid yn unig yn eu hamddiffyn rhag y stigma sy'n gysylltiedig â hynny a'r cyfleoedd a gollir, ond byddwn hefyd yn diogelu ein cymunedau rhag trosedd.
Gall cael cofnod troseddol yn gynnar mewn bywyd lesteirio potensial person ifanc a golygu na all achub ar gyfleoedd gwaith a chyfleoedd eraill. Yng Nghymru, rydym wedi ymdrin â chyfiawnder ieuenctid ar sail Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) ers iddo gael ei fabwysiadu'n ffurfiol gan Weinidogion Cymru yn 2004. Mae ffocws y dull hwn o weithio yn hynod berthnasol i blant a phobl ifanc sy'n troseddu am ei fod yn canolbwyntio ar anghenion y person ifanc yn hytrach na'i ymddygiad.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn amlinellu’r sefyllfa sydd ohoni o ran y ddarpariaeth cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru. Mae’n gofyn am safbwyntiau ar ei effeithiolrwydd ac yn ystyried yr angen am ddeddfwriaeth sylfaenol i wella’r gwasanaethau.
Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 11 Rhagfyr 2012 a byddaf yn ystyried yr ymatebion er mwyn penderfynu ar y camau nesaf.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.