Carl Sargeant, Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar Wella Cyfleoedd i gael Mynediad i'r Awyr Agored ar gyfer Gweithgareddau Hamdden Cyfrifol rhwng 10 Gorffennaf 2015 a 02 Hydref 2015. Roedd yr ymgynghoriad yn archwilio'r fframwaith deddfwriaethol presennol ar gyfer cael mynediad i'r awyr agored ar gyfer gweithgareddau hamdden yng Nghymru, ac yn archwilio opsiynau ar gyfer newid. Roedd y papur yn defnyddio'r dystiolaeth a gasglwyd yn ystod adolygiad cynharach o'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer mynediad (2014), ac yn annog trafodaeth ar raddfa symudol o opsiynau posibl, yn cynnwys:
- Gweithdrefnau diwygio – gwneud gwelliannau i'r gwaith o weinyddu'r ddeddfwriaeth mynediad bresennol
- Dileu cyfyngiadau – dileu rhai o'r cyfyngiadau ar yr amrywiaeth o weithgareddau y gellir eu cynnal ar hawliau tramwy ac ar dir mynediad
- Diwygio mynediad – ymestyn y diffiniad o dir mynediad i gynnwys ardaloedd eraill
- Hawliau a chyfrifoldebau newydd – gweithredu setliad mynediad cwbl newydd, sy'n caniatáu llawer mwy o ddefnydd o dir ar gyfer gweithgareddau hamdden cyfrifol.
Mae crynodeb o'r ymatebion yn cael ei gyhoeddi heddiw.
Cafwyd cyfanswm o 5,796 o ymatebion i'r ymgynghoriad, yn cynnwys 22 o ymatebion i'r fersiwn ieuenctid, a gyhoeddwyd ar yr un pryd â'r Papur Gwyrdd. Cyrhaeddodd 165 o'r ymatebion hyn ar ôl y dyddiad cau, ond mae'r sylwadau wedi cael eu hystyried.
Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn darparu cyfoeth o wybodaeth am y mathau o weithgareddau hamdden sy'n cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru. Roeddent hefyd yn rhoi gwybodaeth am yr heriau y mae rheolwyr tir, ffermwyr a buddiannau masnachol eraill yn eu hwynebu o bryd i'w gilydd. Amlygodd yr ymgynghoriad safbwyntiau cryf, a oedd weithiau yn gwbl groes i'w gilydd, ar y system bresennol ar gyfer cael mynediad i'r awyr agored, a sut y gellid gwella arni.
Mae'r meysydd allweddol a nodwyd gan yr ymatebwyr yn cynnwys gwella'r ffordd y caiff hawliau tramwy cyhoeddus eu cofnodi; adolygu'r hawliau sy'n gysylltiedig â llwybrau cyhoeddus; egluro'r hawliau sy'n gysylltiedig â mynediad i ddŵr; ac ystyried cod statudol.
Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud o ran a ddylid symud ymlaen ag unrhyw newidiadau. Nod allweddol yr ymgynghoriad oedd casglu gwybodaeth a safbwyntiau gan bobl ynglŷn â sut y gallai gwelliannau posibl i'r system ddeddfwriaethol effeithio ar y galw am weithgareddau hamdden yn yr awyr agored yn y dyfodol; a'u heffaith bosibl ar faterion yn ymwneud â thir a dŵr, yn cynnwys defnyddwyr presennol, rheolwyr tir a'r amgylchedd naturiol.
Bydd yr ymatebion yn helpu i lywio penderfyniadau Gweinidogion nesaf Cymru.