Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Papur Gwyrdd yn cael ei gyhoeddi heddiw i gasglu safbwyntiau ynghylch pa fesurau deddfwriaethol y gellir eu cyflwyno i wella ansawdd gwasanaethau iechyd a llywodraethu a swyddogaethau’r GIG yng Nghymru.

Rydym eisiau meithrin diwylliant o welliant parhaus yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac yn ansawdd y gofal a ddarperir i bobl lle bynnag y caiff ei dderbyn. 

Ceir enghreifftiau di-rif o arfer da a gofal iechyd o ansawdd yn cael eu darparu ar draws y GIG yng Nghymru bob dydd. Fodd bynnag, ceir achlysuron hefyd lle aiff pethau o’i le, sy’n pwysleisio’r angen am welliant parhaus, atebolrwydd agored a thryloyw a llywodraethu cryfach. Mae hyn wedi arwain yn briodol at fwy o drafod ynghylch yr heriau y mae’r GIG yng Nghymru yn eu hwynebu a pha gamau y gallwn eu cymryd gyda’n gilydd i’w datrys. 

Mae’r Papur Gwyrdd yn ymdrin â nifer o faterion allweddol.

Mae rhan un yn amlinellu’r materion ynghylch ansawdd y GIG, gan gynnwys camau sydd eisoes wedi cael eu cymryd i gryfhau’r gwasanaethau iechyd yng Nghymru a’r heriau rydym yn eu hwynebu o hyd. Mae’r Papur Gwyrdd yn gwahodd sylwadau ynghylch pa gamau deddfwriaethol y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i wella ansawdd ymhellach. Mae rhai o’r materion allweddol a nodwyd yn cynnwys:

  • Gwella ansawdd drwy ddyletswyddau ac ymgorffori hyn drwy safonau cyffredin;
  • Hyrwyddo natur agored a gonestrwydd;
  • Gwneud arolygiaethau’n fwy annibynnol, gan gynnwys y posibilrwydd o uno Arolygiaeth Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru; rôl a swyddogaethau cynghorau iechyd cymuned yn y dyfodol.

Mae rhan dau yn amlinellu ystod o ddarpariaethau llywodraethu cyllid a swyddogaethau y GIG sydd wedi codi ers ad-drefnu’r GIG yng Nghymru yn 2009. Mae’n tynnu sylw at nifer o opsiynau deddfwriaethol posibl ac yn canolbwyntio’n arbennig ar y canlynol: 

  • Ystyried alinio pwerau, dyletswyddau ac atebolrwydd byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG, gan gynnwys a ddylem roi pwerau benthyg i fyrddau iechyd;
  • Gwella arweinyddiaeth a llywodraethu GIG Cymru, gan gynnwys ystyried aelodaeth y byrddau iechyd a byrddau ymddiriedolaethau’r GIG.

Bydd ymgynghoriad y Papur Gwyrdd yn para am gyfnod estynedig tan 20 Tachwedd 2015. Cynhelir digwyddiadau i randdeiliaid yn yr hydref.