Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy’n cyhoeddi Papur Gwyn ‘Taro’r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg’.  Bwriad y cynigion yw i sicrhau arweiniad a threfniadau cadarn ar gyfer hybu a hwyluso defnydd o’r Gymraeg ac i wneud gwelliannau i’r gyfundrefn Safonau.

Datblygwyd y Papur Gwyn yng ngoleuni’r ymatebion i’r alwad am dystiolaeth gan gyrff o dan y drefn Safonau a rhanddeiliaid eraill.

Mae copi o’r Papur Gwyn ar gael o’r ddolen isod:

https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/bil-y-gymraeg-papur-gwyn

Bydd yr ymgynghoriad yn para am 12 wythnos, hyd at 31 Hydref 2017.   Rwy’n erfyn ar bawb sydd â diddordeb yn yr iaith i gynnig sylwadau a syniadau i’w hystyried. Rwy’n edrych ymlaen at y cyfle i gynnal trafodaeth am gynnwys y Papur Gwyn gydag ystod eang o randdeiliad i’n cynorthwyo i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn addas i’n cefnogi i weithio tuag at ein gweledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Bydd cyfle i Aelodau drafod cynnwys y Papur Gwyn mewn dadl yn y Senedd yn yr hydref.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.