Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Chwefror 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw rydym yn cyhoeddi ein Papur Gwyn ar Ddiwygio Llywodraeth Leo, Grym i Bobl Leol. Mae ein Papur Gwyn yn egluro ein gweledigaeth ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru yn seiliedig ar Gynghorau gweithredol, sy’n mynd ati i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus modern a hygyrch o safon, a hynny ar y cyd â’u cymunedau.

Mae’r Papur Gwyn yn cyflenwi bargen newydd i Lywodraeth Leol sy’n ail-lunio’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol, gyda fframwaith newydd o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn seiliedig ar yr egwyddorion ym Mil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Byddai Llywodraeth Cymru yn gosod nifer fach o flaenoriaethau mewn meysydd cenedlaethol allweddol – er enghraifft, addysg, gwasanaethau cymdeithasol, datblygu economaidd a chynllunio – gan adael i Lywodraeth Leol osod y crynswth o’i blaenoriaethau gyda phobl leol. Rhoddid pŵer cymhwysedd cyffredinol i Awdurdodau Lleol a Chynghorau Cymuned cymwys.

Byddai ein cynigion yn lleihau cost gwleidyddiaeth a rheolaeth ym maes Llywodraeth Leol. Byddem yn cynnal adolygiad o gydnabyddiaeth ariannol Cynghorwyr, Arweinwyr ac Aelodau Cabinet, er mwyn lleihau cyfanswm y gost, yn unol â rhannau eraill o’r DU.   Byddai rheolaeth dynn ar daliadau i Brif Weithredwyr a phrif swyddogion eraill. Rydym yn cynnig y dylid recriwtio Prif Weithredwyr drwy broses recriwtio genedlaethol ac y dylid diffinio rôl a chyfrifoldebau Prif Weithredwyr mewn Awdurdodau Lleol drwy ddeddfwriaeth. Cefnogir rôl ein gweithlu gwasanaethau cyhoeddus drwy’r Comisiwn Staff Gwasanaethau Cyhoeddus. 

Rydym yn awyddus bod Awdurdodau Lleol yn adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau yng Nghymru. Rydym yn cynnig gosod dyletswydd statudol ar Arweinwyr Cynghorau i sicrhau amrywiaeth ymhlith Aelodau Etholedig ac uwch-swyddogion y Cyngor. 
Bydd ein cynigion yn mynnu bod Awdurdodau Lleol yn cymryd mwy o gyfrifoldeb am berfformiad. Dymunwn fod dyletswydd statudol ar Brif Weithredwyr i hybu gwelliannau mewn perfformiad. Dymunwn weld diwylliant ble mae archwilio ac arolygu yn gam olaf o ran sicrhau gwasanaethau cyhoeddus safonol, nid y cam cyntaf.

Dymunwn fod Cynghorwyr yn gweithredu fel eiriolwyr cymunedol, yn arwain mentrau lleol i wella’r ddarpariaeth o wasanaethau. Byddwn yn agor cyfleuon newydd i gymunedau i berchen ar a rhedeg gwasanaethau lleol, lle bo hynny’n briodol, gan ystyried y traddodiad Cymreig o gwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol. Bydd y Prif Awdurdodau Lleol yn gyfrifol am sicrhau cysondeb ymhlith Cynghorau Cymuned a byddwn yn disgwyl iddynt gynnal adolygiad o Gynghorau Tref a Chymuned yn eu hardal.
Byddaf yn gwneud datganiad llafar ar ein cynigion prynhawn heddiw.

Nodiadau
Cyhoeddir crynodeb pob dydd a fersiwn sy’n addas ar gyfer pobl ifanc i gefnogi’r ymgynghoriad. Datblygwyd arolwg ymgynghori ar-lein i gefnogi’r ymgynghoriad.

Gellir dod o hyd i’r dogfennau hyn a dolen i’r arolwg ymgynghori ar lein. 

Cynhelir ymgyrch ymwybyddiaeth cyhoeddus ar y cyd â’r ymgynghoriad i sicrhau bod gymaint a phosib o bobl yn ymwybodol o’r ymgynghoriad a bwriadau Llywodraeth Cymru am Ddiwygio Llywodraeth Leol.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am yr ymgyrch ymwybyddiaeth cyhoeddus yma:
www.cymru.gov.uk/cynghorauinewid