Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Ym mis Gorffennaf 2021 cyhoeddwyd ein fframwaith ar gyfer Diwygio Etholiadol, ac ym mis Hydref y llynedd, cyhoeddais Bapur Gwyn ar gyfer ymgynghori ar gynigion manwl ar gyfer moderneiddio gweinyddiaeth etholiadol yng Nghymru. Cawsom bron i 150 o ymatebion i’n hymgynghoriad, ac rwy’n ddiolchgar i bob unigolyn a sefydliad rhanddeiliaid a rannodd eu barn ar ein huchelgais i wella iechyd democrataidd.
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad hwnnw ac yn awr rwy’n nodi’r camau nesaf ar ein taith i gyflawni ymrwymiad y Llywodraeth hon i leihau’r diffyg democrataidd yng Nghymru a datblygu system etholiadol ar gyfer y 21ain ganrif.
Rydym yn adeiladu ar yr hyn yr ydym eisoes wedi’i gyflawni, gan gynnwys ehangu’r etholfraint i unigolion 16 ac 17 oed, ac i ddinasyddion tramor cymwys yng Nghymru a chyflwyno set o ddatblygiadau etholiadol arloesol yn yr etholiadau lleol fis Mai y llynedd a ddangosodd y gall arloesi digidol ddatgloi etholiadau mwy effeithiol a hygyrch, heb danseilio cywirdeb.
Mynegodd ymatebwyr ein hymgynghoriad gefnogaeth eang i’n huchelgeisiau a nodir yn y Papur Gwyn. Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid drwy gydol tymor y Senedd hwn wrth i ni fwrw ymlaen â’n cynigion a chyflwyno deddfwriaeth i baratoi ar gyfer yr etholiadau datganoledig mawr nesaf yng Nghymru yn 2026 a 2027. Gwnawn hynny gan ystyried y safbwyntiau a fynegwyd ynghylch sicrhau gwerth am arian, gallu’r awdurdod lleol i gyflawni a’r angen i reoli’n ofalus y gwahaniaethau rhwng etholiadau datganoledig ac etholiadau a gedwir yn ôl – na ddylai fod yn rhwystr i’n hagenda foderneiddio.
Hoffwn dynnu sylw at rai o’r diwygiadau yr ydym yn bwriadu bwrw ymlaen â hwy yn awr:
- Er mwyn symleiddio cofrestru etholiadol, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol yng Nghymru i ddylunio a threialu’r broses o gofrestru etholwyr yn awtomatig ar gyfer etholiadau datganoledig.
- Er mwyn cryfhau gweinyddiaeth etholiadol, byddwn yn sefydlu Bwrdd Rheoli Etholiadol yn unol â’r Cynigion yn y Papur Gwyn.
- Byddwn hefyd yn bwrw ymlaen â diwygiadau i’r prosesau ar gyfer cynnal arolygon cymunedol ac etholiadol ac ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.
- Er mwyn datblygu iechyd democrataidd byddwn yn gwella hygyrchedd etholiadau datganoledig ar gyfer pleidleiswyr anabl drwy osod dyletswyddau ar swyddogion canlyniadau i ddarparu offer i helpu pobl anabl i bleidleisio’n annibynnol, yn unol â chanllawiau’r Comisiwn Etholiadol.
- Byddwn yn gwella diogelwch ymgeiswyr drwy ddeddfu i ehangu ystod y drosedd dylanwad gormodol.
Wrth i ni gyflawni’r newidiadau hyn byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid ar ein rhaglen o ddiwygio etholiadol yn y tymor hir. Byddwn yn ceisio cydgrynhoi cyfraith etholiadol i wella eglurder a hygyrchedd, gan gynnwys ailddatgan yr etholfraint ar gyfer etholiadau datganoledig mewn un ddeddf dwyieithog.