Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ar 12 Gorffennaf 2011, gwnaeth Prif Weinidog ddatganiad ar Raglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Yn y datganiad hwnnw dywedodd y byddai ymgynghoriad Papur Gwyn ar gyfer Bil Rhoi Organau a Meinweoedd yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd 2011.
Heddiw, 7 Tachwedd 2011, rwy’n cyhoeddi Papur Gwyn sy’n nodi ein cynigion ar gyfer deddfwriaeth ac yn gofyn am safbwyntiau.
Ein nod yw cyflwyno system feddal o optio allan yng Nghymru a fydd yn cynyddu nifer y rhoddwyr organau a meinweoedd, gan alluogi mwy o fywydau i gael eu harbed ac i wella ansawdd bywyd eraill.
Daw’r ymgynghoriad i ben ar 31 Ionawr 2012 a byddaf yn ystyried yr ymatebion wrth benderfynu ar ffurf derfynol y ddeddfwriaeth.
Bydd Uwch Swyddogion y Llywodraeth ar gael i ddarparu briffio technegol i Aelodau’r Cynulliad ar 15 Tachwedd 2011 am 6 yr hwyr yn Ystafell Friffio’r Wasg yn y Senedd.