Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wythnos yn ôl, cyhoeddais Cymraeg 2050, sef strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg a’r camau rydym am gymryd i gyrraedd ein huchelgais o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Fel sail i wireddu Cymraeg 2050, mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £2 filiwn ychwanegol i roi ffocws newydd i hybu’r iaith, a mae Bwrdd Datblygu o dan gadeiryddiaeth Rhian Huws Williams wedi’i sefydlu er mwyn datblygu rhaglen o waith.

Yn ogystal, rydym yn cynnal adolygiadau o Gynlluniau Addysg Gymraeg Strategol a chyfrifoldebau a gweithgaredd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd yr adolygiadau hyn yn adrodd yn fuan. At hyn, rydw i nawr yn bwriadu cyflwyno cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg newydd i sicrhau bod y ddeddfwriaeth sylfaenol yn addas ac yn briodol at wireddu ein huchelgais.

Byddaf yn cyhoeddi Papur Gwyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol fydd yn gwneud cynigion cadarn i ddelio â’r materion hyn, sef sicrhau arweiniad a threfniadau cadarn ar gyfer hybu a hyrwyddo’r iaith ac i wneud gwelliannau i’r gyfundrefn Safonau. Bydd yr ymgynghoriad yn para 12 wythnos, hyd at ddiwedd mis Hydref. Rwy’n edrych ymlaen at y cyfle i gynnal trafodaeth am gynnwys y Papur Gwyn yn y Senedd pan fyddwn ni’n ail ymgynnull ym mis Medi. Fy mwriad yw i geisio’r gefnogaeth ehangaf bosib i’m cynigion.

Yn dilyn hynny, byddaf yn cyflwyno rheoliadau Safonau i gyrff iechyd cyn diwedd y flwyddyn. Mae’n bwysig bod y rhaglen dreigl o wneud Safonau yn parhau a bod Aelodau’r Cynulliad yn cael gwneud penderfyniad ar y rheoliadau yng ngoleuni ein cynigion ar gyfer y dyfodol.

Yn dilyn yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, rwy’n disgwyl cyhoeddi adroddiad ar ddechrau 2018 fydd yn amlinellu sut fyddwn yn datblygu’r ddeddfwriaeth.