Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n bleser gennyf lansio ein Papur Gwyn sy'n cynnig Cyfundrefn Diogelwch Adeiladau newydd i Gymru. Mae hyn yn gam sylweddol ymlaen yn ein cynlluniau i wella diogelwch adeiladau yn dilyn y digwyddiadau trasig yn Nhŵr Grenfell. Y newidiadau a gynigir o dan y gyfundrefn newydd yw'r diwygiadau mwyaf helaeth i ddiogelwch adeiladau yn y DU.

Roedd maint yr her yn gofyn inni fod yn feiddgar ac rydym yn cydnabod bod hyn yn gyfle i sicrhau y bydd y newidiadau a wnawn yn arwain at newid gwirioneddol sy'n cael effaith sylweddol er budd preswylwyr ledled Cymru.

Mae nifer o agweddau allweddol i'n cynigion i ailwampio'r system bresennol. Y gyntaf o'u plith yw cwmpas y gyfundrefn. Yn dilyn Grenfell, gwnaethom gydnabod bod angen cymryd camau pwysig er mwyn gwneud adeiladau uchel iawn yn fwy diogel i'w preswylwyr. Ond rydym hefyd yn cydnabod bod risg o dân i'w chael ym mhob adeilad. Yn wir, adeiladau isel fel tai amlfeddiannaeth ac eiddo wedi'u haddasu yw rhai o'r adeiladau risg uchel. Dyma pam y bydd ein cyfundrefn yn cwmpasu amrywiaeth eang o adeiladau, o adeiladau wedi'u haddasu'n nifer o fflatiau i adeiladau preswyl uchel iawn. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod nad yw dull ‘un ateb i bawb’ yn briodol ar gyfer amrywiaeth mor eang o adeiladau. Dyma pam y bydd ein cyfundrefn arfaethedig yn defnyddio mesurau diogelwch pragmatig a chymesur a fydd yn amrywio yn ôl risg a'r math o adeilad.

Rydym hefyd yn cynnig nifer o rolau deiliad dyletswydd newydd. Un o'r agweddau ar y system bresennol sy'n peri'r problemau mwyaf yw'r ffaith y gall fod mor anodd gwybod pwy sy'n gyfrifol am ddiogelwch mewn adeilad. Mae ein cynigion yn cyflwyno rolau yn ystod y broses o ddylunio a chodi adeiladau, a phan gânt eu meddiannu, er mwyn sicrhau bod y rhai sydd mewn awdurdod yn gwybod yn glir beth yw eu cyfrifoldebau a bod modd eu dwyn i gyfrif.

Yr hyn sydd wrth wraidd ein cynigion ar gyfer adeiladau a feddiannir yw system gwbl newydd o nodi, asesu a lliniaru risgiau tân. Nod y system hon yw mynd i'r afael â'r risgiau sydd fel arfer yn bodoli mewn blociau o fflatiau, a bydd yn disodli'r trefniadau presennol sydd wedi'u bwriadu ar gyfer gweithleoedd.  Bydd yn haws i landlordiaid ei rhoi ar waith ac yn haws i breswylwyr ei deall. 

Mae rheoleiddio'r gyfundrefn newydd yn elfen hanfodol. Nid dim ond newidiadau i brosesau yw'r rhain, ond newid diwylliannol sylweddol yn y ffordd y byddwn yn dylunio, codi a rheoli adeiladau, a byw ynddynt, ledled Cymru. Bydd angen inni roi systemau cadarn ar waith i oruchwylio hyn. Bydd cwmpas eang ein cyfundrefn yn creu tirwedd reoleiddio gymhleth a bydd yn rhaid inni sicrhau bod yr agwedd hon yn iawn er mwyn i'r gyfundrefn fod yn effeithiol. Mae hwn yn faes pwysig i'w ystyried ymhellach ac rydym am drafod hyn yn helaeth â rhanddeiliaid wrth inni ddatblygu'r model cywir i Gymru. Mae hyn yn gyfle inni fod yn feiddgar ac ni ddylem osgoi newid sylweddol os bydd hynny'n sicrhau'r system orau i wella diogelwch.

Rydym hefyd yn trafod â Llywodraeth y DU a diwydiant ar agweddau ar ein diwygiadau.  Un maes allweddol ar gyfer y dyfodol fydd pennu'r un disgwyliadau o ran cymhwysedd a sgiliau. Mae Bil Diogelwch Adeiladau drafft y DU yn cynnig estyn rhai pwerau i Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r camau dylunio ac adeiladu a fydd yn ein galluogi i sefydlu proses reoleiddio fwy cadarn ochr yn ochr â'n diwygiadau deddfwriaethol. Bydd dull cyson a fydd yn helpu'r diwydiant adeiladu a'r sector tai ehangach i wneud addasiadau sylweddol yn sgil y diwygiadau hyn yn cynnig cyfleoedd a manteision amlwg.

Yn olaf, ac yn bwysicaf oll, bydd ein cyfundrefn yn rhoi mwy o hawliau i breswylwyr. Rwy'n ymwybodol ei bod yn llawer rhy hawdd mynd ar goll yng nghymhlethdod y maes hwn. Ond rhaid inni beidio ag anghofio pam rydym yn mynd i'r fath drafferth i fynd i'r afael â'r broblem hon sef, yn y pen draw, er budd preswylwyr. Mae preswylwyr yn ganolog i'n cyfundrefn newydd ac mae a wnelo'r newidiadau a gynigir â rhoi mwy o gyfle iddynt fynegi eu barn ar y materion sy'n effeithio ar eu cartrefi. Rydym hefyd yn cydnabod bod hawliau a chyfrifoldebau yn mynd law yn llaw â'i gilydd, a dyma pam rydym hefyd yn cynnig camau y gall preswylwyr eu cymryd eu hunain er mwyn sicrhau eu bod nhw a'u cymdogion yn ddiogel.

Gwyddom fod heriau sylweddol yn ein hwynebu o hyd ac rwy'n ymrwymedig i'w goresgyn. Mae ymchwiliad Grenfell yn dal i fynd rhagddo hefyd. Mae gennym fwy i'w ddysgu o hyn a bydd yn rhaid inni ystyried argymhellion pellach yn ofalus pan fyddant ar gael. Ond rhaid inni hefyd edrych tua'r dyfodol a bod yn obeithiol er mwyn creu'r system sydd ei hangen arnom i wireddu ein gweledigaeth.

Hoffwn ddiolch i'n Grŵp Arbenigol ar Ddiogelwch Adeiladau a'n holl randdeiliaid eraill sydd wedi ein helpu i gyrraedd y man hwn. Gwyddom fod llawer mwy o waith i'w wneud ac rwy'n annog pobl i ymwneud â'n hymgynghoriad cymaint â phosibl er mwyn inni allu gweithio gyda'n gilydd i gyflawni ein cynlluniau uchelgeisiol ond hollbwysig i wella diogelwch adeiladau ledled Cymru.