Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd ein hymgynghoriad ar Bapur Gwyn Amaethyddiaeth (Cymru) ar 16 Rhagfyr 2020.  Mae’n pennu ein huchelgais ar gyfer diwygio’r ffordd y bydd y Llywodraeth yn cefnogi amaethyddiaeth yn y dyfodol a’n bwriad i gyflwyno Bil Amaethyddiaeth yn y Senedd.  Roedd y Papur Gwyn yn cynnwys cynigion ar gyfer: 

  • Rheoli Tir yn Gynaliadwy: polisi a chymorth yn y dyfodol;
  • cymorth yn y dyfodol i amaethyddiaeth;
  • diwygio rheoliadau;
  • cymorth yn y dyfodol i’r diwydiant a’r gadwyn gyflenwi;
  • coedwigaeth a rheoli coetiroedd;
  • gwella iechyd a lles anifeiliaid;
  • monitro’n well trwy ddefnyddio data a thechnoleg o bell yn effeithiol;
  • cyfnewid rhai pwerau yn Neddf Amaethyddiaeth (y DU) 2020.

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 26 Mawrth 2021. Daeth 232 o ymatebion o sylwedd ac 887 o ymatebion oedd yn rhan o ymgyrch a drefnwyd gan y League Against Cruel Sports. Rwy’n ddiolchgar i bawb a roddodd o’u hamser i ymateb.

Comisiynais gwmni ymchwil annibynnol i ddadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad, a heddiw, rwy’n cyhoeddi crynodeb o’r canfyddiadau.  

Rwyf hefyd yn cyhoeddi ein Hymateb Polisi. Mae hwn yn cynnwys rhagor o wybodaeth am gwmpas arfaethedig y Bil Amaethyddiaeth y byddaf yn ei gyflwyno’r flwyddyn nesaf a’n cynlluniau ar gyfer helpu ffermwyr yng Nghymru yn y dyfodol.

Bil Amaethyddiaeth (Cymru) | LLYW.CYMRU

Mae’r sector ffermio wedi wynebu llawer o broblemau dros y blynyddoedd diwethaf a byddwn yn cefnogi ffermwyr actif gyda’r newid sydd ar ddod. Flwyddyn nesaf, byddaf yn lansio nifer o ymyriadau a fydd yn paratoi’r ffordd ar gyfer y cynllun newydd ac yn treialu’r broses y byddwn yn ei defnyddio i’w roi ar waith.

Mae newid sylweddol a phwysig yn dod a fydd yn darparu dyfodol sefydlog a chynaliadwy i'r diwydiant a chymunedau gwledig yng Nghymru.  Yn y cyfamser, ar yr amod y bydd  digon o arian gan Lywodraeth y DU, ein bwriad yw parhau â Chynllun y Taliad Sylfaenol tan 2023 i roi cymorth i’n ffermwyr ni wrth i ni weithio gyda'n gilydd i drosglwyddo i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Ynghyd â hynny, rwy’n cyhoeddi ein bod am estyn contractau Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig am ddwy flynedd, hyd fis Rhagfyr 2023. Mae hyn yn golygu ymrwymiad cyllidebol o £66.79m dros ddwy flynedd i ffermwyr Cymru.  Bydd pawb cymwys sydd â chontract yn cael cynnig estyniad trwy eu cyfrifon RPW ar-lein.

Rwyf hefyd yn cyhoeddi ymrwymiad pellach o £7m i ymestyn rhaglen Cyswllt Ffermio hyd at fis Mawrth 2023. Bydd Cyswllt Ffermio yn parhau i gefnogi sector tir mwy proffesiynol, proffidiol a gwydn wrth i ni ddechrau'r broses o drosglwyddo i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd ac wrth i ni ymateb i heriau lluosog gan gynnwys amgylchedd masnachu sy'n newid yn barhaus i'r diwydiant.

Rydym yn cyhoeddi adroddiad heddiw hefyd sy’n crynhoi canfyddiadau cam cyntaf y prosiect Cydlunio y cynhaliwyd gyda’n ffermwyr ni y llynedd.  Cawsom adborth gwerthfawr yn y cam cyntaf hwn i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gydag oddeutu 2,000 o ffermwyr Cymreig yn cyfrannu.

Cydlunio ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy i Gymru – LLYW.CYMRU

Rwy’n bwriadu cynnal ail gyfnod o Gydlunio y flwyddyn nesaf, gyda chymorth rhanddeiliaid a ffermwyr, i fireinio’n cynigion cyn i ni ymgynghori ar ein cynigion terfynol ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a’n Cynllun Pontio yn 2023.

I gyd-fynd â’r cyhoeddiadau hyn, rwy’n cyhoeddi hefyd ein hymateb i’r Ymgynghoriad ar Denantiaethau Amaethyddol sy’n cynnwys cynigion i sicrhau mynediad teg i gynlluniau cymorth i denantiaid yn y dyfodol.

Diwygio tenantiaethau amaethyddol | LLYW.CYMRU

Y ddogfen olaf i gael ei chyhoeddi heddiw yw’r ddiweddaraf mewn cyfres o adroddiadau tystiolaeth gan Raglen Modelu a Monitro yr Amgylchedd a Materion Gwledig (ERAMMP). Mae’r adroddiad yn ystyried sut y gellid defnyddio’r ‘gadwyn resymeg’ sy’n dangos sut y gall gwaith rheoli tir effeithio ar gydnerthedd ecosystemau a’r manteision y mae nwyddau a gwasanaethau’r ecosystem yn eu rhoi i bobl.

Adnoddau | Rhaglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig (erammp.wales)