Vaughan Gething AC - y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rwyf yn gwneud y datganiad hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Panel Goruchwylio Annibynnol ar Wasanaethau Mamolaeth a gweithgarwch gwella ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg mewn perthynas â gwasanaethau mamolaeth.
Ar 30 Ebrill 2019 cyhoeddais adroddiad ar y cyd rhwng Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr (RCOG) a Choleg Brenhinol y Bydwragedd yn dilyn eu hadolygiad o wasanaethau mamolaeth yng nghyn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.
Un o'r camau a gymerais ar unwaith oedd sefydlu Panel Goruchwylio Annibynnol ar Wasanaethau Mamolaeth. Cyhoeddais ddatganiadau ar 23 Mai 2019 yn cadarnhau aelodaeth lawn y Panel, ac ar 25 Mehefin 2019 yn cadarnhau ei Gylch Gorchwyl llawn.
Rwyf bellach wedi cael diweddariad ar gynnydd oddi wrth Gadeirydd y Panel a hoffwn rannu'r datblygiadau allweddol.
Mae'r Panel wedi mabwysiadu ymagwedd a seilir ar dystiolaeth at ei waith. Mae wedi ceisio dysgu gwersi o werthuso ymagweddau ymyrraeth sydd wedi'u mabwysiadu mewn mannau eraill i fynd i'r afael â methiant systemig. Mae'n hanfodol inni ddysgu o bethau sydd wedi mynd o chwith a defnyddio hyn yn sail ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol.
Mae'r Panel yn datblygu tair strategaeth allweddol yn sail i'w waith:
- Proses ar gyfer monitro ac asesu gwelliant;
- Strategaeth ymgysylltu a chyfathrebu;
- Strategaeth ar gyfer adolygiadau clinigol.
Mae'r Panel wedi cytuno ar drefniadau gweithredu, gan gynnwys amserlen strwythuredig ar gyfer cyfarfodydd.
Proses ar gyfer monitro ac asesu gwelliant
Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, mae Cyfarwyddwr Nyrsio, Bydwreigiaeth a Gofal Cleifion yn gyfrifol am welliant ym maes gwasanaethau mamolaeth. Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb dros raglen gynhwysfawr o welliannau ym maes gwasanaethau mamolaeth sy'n ymateb i argymhellion cyd adroddiad y Colegau Brenhinol ac adolygiadau mewnol ac allanol eraill. Mae'r camau a nodwyd yn adeiladu ar y cynllun gwella blaenorol a'r newidiadau sydd eisoes wedi'u gwneud.
Mae'r panel yn cytuno ar gerrig milltir manwl er mwyn olrhain cynnydd a gwelliant. Mae'r Panel a'm swyddogion yn credu bod gwelliant diriaethol wedi bod yn y cynnydd a lefel y cydlyniant ar lefel y Bwrdd a lefel weithredol.
Disgwylir i'r Panel Goruchwylio gyfarfod yn nes ymlaen y mis hwn i graffu ar gynnydd yn erbyn rhaglen y bwrdd iechyd sy'n dod i'r amlwg ym maes gwella gwasanaethau mamolaeth
Yn ogystal â'r gwaith manwl mewn perthynas â'r rhaglen gwella gwasanaethau mamolaeth, mae Mick Giannasi wedi bod yn gweithio gyda'r Cadeirydd, y Prif Weithredwr dros dro sydd newydd ei benodi i'r bwrdd iechyd a'r Cyfarwyddwr Nyrsio, i gynllunio fframwaith strategol lefel uchel. Mae hyn yn canolbwyntio ar:
- cyflenwi gofal diogel o ansawdd,
- adfer ymddiriedaeth a hyder ymhlith cleifion, staff, partneriaid a'r cyhoedd yn ehangach; a
- mabwysiadu ymagwedd gyfannol ar draws yr holl systemau.
Dylai'r fframwaith, ynghyd â'r pryderon ehangach ynghylch ansawdd llywodraethiant, ganiatáu i'r Bwrdd gychwyn ar raglen drawsnewid strategol. Y nod o hyd yw creu sefydliad modern, sy'n cyflawni i lefel uchel, sy'n addas i'r diben ac yn gynaliadwy yn y tymor hwy. Mae'r cyhoedd a'r staff yn haeddu hyn a dim byd llai.
Strategaeth ymgysylltu a chyfathrebu
Mae'r strategaeth ymgysylltu a chyfathrebu'n cael ei datblygu gan y bwrdd iechyd gyda chymorth gan Cath Broderick, aelod Lleyg y Panel. Caf ar ddeall fod y gwaith hwn yn mynd rhagddo'n dda ac yn cael ei sbarduno gan nifer o egwyddorion:
- Bydd menywod a theuluoedd, yn enwedig y rhai y mae digwyddiadau sy'n arwain at adolygiad RCOG yn effeithio arnynt yn uniongyrchol:
- wrth wraidd y gwaith a wneir gan y Panel; ac
- yn ganolog i ddatblygu dulliau gweithredu a chyflenwi ymgysylltu a chyfathrebu gan y bwrdd iechyd;
- Dylai'r gwaith o ddarparu gwasanaethau mamolaeth, arfer unigolion a'r strategaeth ymgysylltu a chyfathrebu gael ei weld trwy lygaid y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau yng Nghwm Taf Morgannwg;
- Rhaid iddi fod mor hawdd â phosibl i bobl chwarae rhan a hynny mewn ffyrdd sy'n ystyrlon ac sy'n cynnig cyfleoedd gwirioneddol i ddylanwadu ar newid a gwella;
- Rhaid i bobl gael gwybod am sut y mae eu cyfraniad wedi dylanwadu ar benderfyniadau ac arfer.
Mae'r awgrymiadau gan fenywod a'u teuluoedd yn ganolog i ddatblygu'r strategaeth hon. Mae meithrin ymddiriedaeth a hyder mewn gwasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn bwysig i'r menywod a'r teuluoedd hynny sy'n defnyddio gwasanaethau ar hyn o bryd yn ogystal â'r rhai y gallai fod arnynt eu hangen yn y dyfodol.
Mae'r Panel wedi cyfarfod sawl gwaith â nifer o fenywod a theuluoedd yr effeithir arnynt yn uniongyrchol a byddant yn parhau i gyfarfod â hwy wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Mae Cath Broderick wedi dechrau ar y broses helaeth o weithio gyda phobl allweddol yn y bwrdd iechyd a sefydliadau partner i ddeall yn well sut y gellir datblygu a gwella ymagweddau presennol at ymgysylltu â chleifion ac adborth.
Bydd y Bwrdd Gwella Gwasanaethau Mamolaeth sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf Morgannwg, bydwragedd, arweinwyr ymgysylltu a chyfathrebu'n goruchwylio ffrwd waith newydd ar gyfer menywod a theuluoedd i fwrw ymlaen â hyn.
Strategaeth ar gyfer adolygiadau clinigol
Mae'r panel yn datblygu strategaeth ar gyfer adolygiadau clinigol a fydd yn nodi sut y caiff y tri maes allweddol i'w hadolygu eu datblygu. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Achosion 2016-18 a nodwyd cyn adolygiad RCOG a'r rhai a nodwyd wedyn;
- Edrych yn ôl ar 2016 i 2010;
- Menywod a theuluoedd sydd wedi hunangyfeirio.
Mae arweinwyr Obstetreg a Bydwreigiaeth y Panel, Alan Cameron a Christine Bell, wedi cynnal asesiad cychwynnol o'r achosion y cyfeirir atynt yn adroddiad RCOG. Mae gwaith yn mynd rhagddo bellach i ehangu eu tîm, gydag arbenigwyr perthnasol ychwanegol i sicrhau bod modd gwneud cynnydd cyson. Mae'r Panel wedi cadarnhau mai achosion 2016-18 a ystyrir gyntaf. Rwyf yn rhagweld bod mewn sefyllfa i roi diweddariad manylach ar yr agwedd hon ar y gwaith y tro nesaf y byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa.
Rwyf yn ddiolchgar i'r Panel am y gwaith y mae wedi'i wneud hyd yn hyn a byddwn yn rhoi diweddariad pellach pan fyddaf yn cyhoeddi ei Adroddiad Chwarterol cyntaf yn nhymor yr hydref.