Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mehefin 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Glastir Uwch yw cynllun cymorth amaeth-amgylchedd-hinsawdd lefel uchel Cymru sy’n rhoi tâl i ffermwyr a rheolwyr tir am reoli tir mewn ffordd benodol er mwyn rhoi sylw i ganlyniadau amgylcheddol allweddol mewn lleoliadau wedi’u targedu. Cynlluniwyd y cynllun â’r nodau a ganlyn:

  • Lleihau allyriadau Carbon a Nwyon Tŷ Gwydr.
  • Addasu i hinsawdd sy’n newid a chryfhau gallu busnesau fferm a choedwigaeth i wrthsefyll ei effeithiau.
  • Rheoli ein hadnoddau dŵr i wella ansawdd dŵr a lleihau’r perygl o lifogydd.
  • Cyfrannu at wneud ffermydd, coedwigaeth a’r gymuned wledig ehangach yn fwy economaidd gynaliadwy.
  • Diogelu’r dirwedd a’r amgylchedd hanesyddol tra’n gwella mynediad ato.
  • Cyfrannu at wyrdroi’r dirywiad ym mioamrywiaeth gynhenid Cymru.

Mae dyluniad y cynllun wedi cael ei ganmol gan y Comisiwn Ewropeaidd fel un arloesol sy’n torri tir newydd drwy geisio targedu ymyriadau yn y ffordd fwyaf effeithiol er mwyn cyflawni’r heriau hyn. Mae nifer y ffermwyr sydd wedi dangos diddordeb yn y cynllun ac wedi ymuno ag ef wedi bod yn uchel hefyd, ac yn y tair blynedd gyntaf ers ei lansio cafwyd mwy o geisiadau i ymuno â’r cynllun nag y gellid eu derbyn.

Fel rhan o ymgynghoriad y Rhaglen Datblygu Gwledig y llynedd ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad annibynnol o weithrediad Glastir Uwch. Prif bwrpas y gwerthusiad oedd asesu i ba raddau roedd Glastir Uwch yn llwyddo i roi sylw i’w amcanion amgylcheddol pwysig a nodi unrhyw gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd er mwyn dal i wella’r ffordd y bydd y cynllun yn cael ei weithredu yn y dyfodol dan y Rhaglen Datblygu Gwledig newydd.

Cadeirydd y Panel a benodwyd gennyf oedd Dr Geoff Radley, ymgynghorydd annibynnol a fu’n arwain yr adolygiad o’r cynlluniau Stiwardiaeth yn Lloegr. Yr aelodau eraill yw Dr Ieuan Joyce, cadeirydd Ymddiriedolaeth Cwm Elan, sydd wedi ymwneud llawer â chynlluniau amaeth-amgylcheddol dros y blynyddoedd, a Mr Arfon Williams, cyn swyddog prosiect dan y cynllun Tir Gofal sydd bellach efo’r RSPB a Chyswllt Amgylchedd Cymru. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch yn bersonol iddynt am eu gwaith. 

Gwelodd y Panel nifer o enghreifftiau o ymarfer da. Yn fwyaf arbennig, gwelodd fod Glastir Uwch yn ystyried amcanion amrywiol o fewn fframwaith lle mae blaenoriaethau’n cael eu targedu, ac y bydd contractau’n cyflawni llawer mwy na dim ond yr amcanion penodol y dewiswyd hwy ar eu cyfer. Roedd y dulliau rheoli a sefydlwyd ar gyfer y cynefinoedd allweddol yn briodol ar y cyfan a rhoddwyd canmoliaeth benodol i’r dull o wella ansawdd dŵr.

Gwnaeth y Panel sylwadau penodol hefyd ar waith rhagorol Rheolwyr Contractau. Yn fwyaf arbennig, y ffordd roeddent wedi mynd ati i gynnwys cyngor o nifer o wahanol ffynonellau, ymdrin â gwrthdaro rhwng dulliau rheoli a oedd yn ofynnol ar gyfer gwahanol amcanion, a chyflwyno pecyn rheoli y byddai’n realistig i ffermwr fod yn barod i’w weithredu.

Mae’r Panel hefyd, gan ddilyn y cyfarwyddyd a roddwyd iddo, wedi nodi rhai meysydd lle nad yw’r ffordd y mae’r cynllun yn cael ei weithredu ar hyn o bryd yn gwneud y defnydd gorau bob amser o’i sylfeini cadarn. Yn unol â’i gylch gorchwyl, mae’r Panel wedi gwneud 10 argymhelliad sy’n nodi sut y gall Llywodraeth Cymru wella gweithrediad y cynllun er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn. 

Rwy’n falch iawn fod negeseuon y Panel yn rhai cadarnhaol ar y cyfan, a’u bod yn dangos bod Glastir Uwch yn cyflawni ei amcanion yn effeithiol. Rwyf wedi ystyried argymhellion y Panel ac rwyf wedi amlinellu sut y bwriadaf ymateb iddynt. Bydd yr adroddiad llawn a chrynodeb o ymateb Llywodraeth Cymru’n cael ei gyhoeddi heddiw ar dudalennau gwe Glastir.