Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Gweinidog Tai ac Adfywio

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 23 Ebrill 2018, cyhoeddais fy mod i wedi comisiynu adolygiad o'r cyflenwad o dai fforddiadwy. Er mwyn sicrhau bod yr adolygiad yn deg, yn dryloyw ac yn gadarn, rwy'n sefydlu panel annibynnol i oruchwylio'r gwaith hwn. Bydd y panel, a fydd yn gweithio o dan Gadeirydd annibynnol, yn archwilio'r dull gweithredu presennol, ac yn argymell newidiadau fel y gwêl yn dda. Rwy'n disgwyl i'r panel gyflwyno ei adroddiad erbyn diwedd Ebrill 2019.

Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hirsefydlog i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy, ac mae'r ymrwymiad hwn yn ganolog i Ffyniant i Bawb. Mae gennym darged i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy newydd dros dymor y Cynulliad hwn, ond rwyf hefyd eisiau gosod y seiliau ar gyfer y posibilrwydd o bennu targedau mwy heriol byth yn y dyfodol, mewn ymateb i anghenion tai o bob math. Rwyf hefyd eisiau i Lywodraeth Cymru barhau i greu hinsawdd sy'n hyrwyddo arloesi a gwelliannau o ran cynllunio, ansawdd ac effeithlonrwydd ynni.  

Rwyf eisoes wedi cyhoeddi y bydd Lynn Pamment, uwchbartner yn swyddfa Caerdydd PwC, yn cadeirio'r grŵp hwn. Gallaf hefyd gyhoeddi bellach mai'r aelodau eraill y gofynnwyd iddynt fod yn rhan o'r grŵp – ac yr wyf yn falch o roi gwybod sydd wedi derbyn y cynnig yw:

• Dr Peter Williams – academydd sy’n gysylltiedig ag Adran Economi’r Tir ym Mhrifysgol Caergrawnt, ac ymgynghorydd annibynnol ar y marchnadoedd tai a morgeisi a pholisi tai.

• Helen Collins – Savills, Pennaeth yr Ymgynghoriaeth Dai.

• Yr Athro Kevin Morgan - Athro Llywodraethu a Datblygu a Deon Ymgysylltu ym Mhrifysgol Caerdydd.

• Dr Roisin Willmott OBE FRTPI – Cyfarwyddwr ar gyfer Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol Cymru.

• Phil Jenkins - Rheolwr Gyfarwyddwr.
 
Rwy'n falch ein bod wedi gallu creu panel sy'n cynnig trawsdoriad mor gryf o sgiliau ac arbenigedd ar draws yr holl feysydd y mae'r adolygiad yn eu hystyried. Bydd yr aelodau'n taflu goleuni newydd ar faterion yn ymwneud â'r cyflenwad tai yng Nghymru a rhannau eraill o'r DU a'r atebion sydd ar gael. Mae'r panel hefyd yn cynnig dealltwriaeth fanwl o effaith y sector tai ar economi ehangach Cymru, a ffyrdd arloesol o gynyddu'r effaith honno. Bydd yr adolygiad hwn hefyd yn golygu ymgysylltu'n helaeth â'r holl sefydliadau sy'n ymwneud â chyflenwi tai fforddiadwy ar hyn o bryd, ac edrychaf ymlaen at y drafodaeth yr wyf yn gobeithio y bydd y gwaith hwn yn ei ysgogi.  

Byddaf yn cyhoeddi datganiad pellach pan fydd y panel wedi cwrdd a phan fydd cylch gorchwyl y broses ymgynghori eang a gynhelir fel rhan o'r adolygiad hwn yn glir. Bydd yr adolygiad yn sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau am arian o'n buddsoddiadau, a bod gennym bolisïau tai sy'n addas ar gyfer y dyfodol ac sy'n helpu llawer mwy o bobl yng Nghymru i gael gafael ar y tai fforddiadwy sydd eu hangen arnynt.