Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Y Gyfraith sy'n cael ei diwygio:
Rheoliad 2195/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 5 Tachwedd 2002 ar yr Eirfa Gaffael Gyffredin (“CPV”)
Unrhyw effaith y gallai'r OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a/neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru.
Mae'r OS hwn yn cynnwys darpariaethau sy'n galluogi i swyddogaethau gael eu harfer gan y Gweinidog dros Swyddfa'r Cabinet, y mae rhai ohonynt yn gofyn am gydsyniad ymlaen llaw Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag Awdurdodau Cymreig Datganoledig.
Byddai'r swyddogaethau hyn yn gyfystyr â swyddogaethau naill ai un o Weinidogion y Goron neu awdurdod cyhoeddus (Swyddfa'r Cabinet) at ddibenion Atodlen 7B Deddf Llywodraeth Cymru 2006, ac felly bydd hyn yn ystyriaeth berthnasol yng nghyd-destun cymhwysedd y Senedd i ddeddfu yn y meysydd hyn yn y dyfodol.
Diben y diwygiadau
Diben y diwygiadau yw diweddaru dau god CPV sy'n defnyddio iaith sydd wedi dyddio sy'n anghydnaws â deddfwriaeth cydraddoldeb ar draws y DU.
Mae'r OS a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy'n nodi effaith pob diwygiad ar gael yma:
ANNEX A - SI Common Procurement Vocabulary (Amendment) Regulations 2023
ANNEX B - EM Common Procurement Vocabulary (Amendment) Regulations 2023
Materion o ddiddordeb arbennig i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
Nid oes unrhyw faterion wedi'u nodi.
Pam y rhoddwyd cydsyniad
Nid oes gwahaniaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y polisi ar gyfer y cywiriad. Felly, byddai gwneud OSau ar wahân yng Nghymru a Lloegr yn arwain at ddyblygu, a chymhlethdod diangen o ran y llyfr statud. O dan yr amgylchiadau eithriadol hyn, mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn briodol i Lywodraeth y DU ddeddfu ar ein rhan yn yr achos hwn.