Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf wedi ymrwymo i wella canlyniadau canser yng Nghymru. Un o’r ffyrdd gorau o wneud hyn yw i ganfod a rhoi diagnosis o ganser ar gam cynnar, pan mae’n debygol y bydd mwy o ddewisiadau ar gael o ran triniaeth. Sgrinio yw un o’r ffyrdd y gallwn ganfod canser yn gynharach.

Sgrinio Coluddion Cymru yw un o’n rhaglenni sgrinio cenedlaethol ac mae’n cynnig prawf sgrinio bob dwy flynedd i ddynion a menywod rhwng 60 a 74 oed ar hyn o bryd.

Yn 2018, argymhellodd Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (UK NSC) y dylid cynnig y prawf imiwnocemegol ar ysgarthion (FIT) sy’n fwy newydd a manwl gywir, yn lle’r prawf gwaiac i ganfod gwaed cudd mewn ysgarthion (gFOBt) a ddefnyddiwyd gan y rhaglen sgrinio ar y pryd. Argymhellwyd y dylid cynnig y prawf hwn i ddynion a menywod rhwng 50 a 74 oed.

Tua’r un pryd, gwnaethom gyhoeddi Cynllun Gweithredu Endosgopi Cenedlaethol, wedi’i ysgogi’n rhannol gan yr angen i wella mynediad at golonosgopi i alluogi i raglen sgrinio’r coluddyn fodloni argymhellion UK NSC.

Gwnaethom gyflwyno’r prawf sgrinio newydd a phenderfynu optimeiddio’r rhaglen sgrinio’n raddol gan gynnwys ystod oedran ehangach a gwell sensitifrwydd profion. Yn 2019, dechreuodd Iechyd Cyhoeddus Cymru gynnig y prawf FIT yn lle’r prawf gFOB presennol. Mae’r prawf hwn, sy’n haws ei ddefnyddio, wedi cynyddu’r niferoedd sy’n manteisio ar brofion sgrinio – mae mwy na 60% nawr yn manteisio ar y rhaglen yn gyson.

Bydd cam nesaf y rhaglen optimeiddio yn dechrau heddiw wrth i ddynion a menywod 58 a 59 oed gael eu gwahodd i gael profion sgrinio canser y coluddyn.

Bydd cynnig y prawf i bobl ieuengach a all fod mewn perygl o ddatblygu canser y coluddyn yn ein helpu i adnabod y bobl hynny sydd angen triniaeth ataliol – sy’n cynnwys tynnu polypau cyn-ganseraidd – a’r rheini â chanser y colon a'r rhefr sydd yn y camau cynnar, ond heb symptomau.

Byddwn yn parhau i ehangu’r rhaglen sgrinio coluddion i bobl o 50 oed ac yn cynyddu sensitifrwydd y prawf i 80ug/g. Byddwn yn cynllunio’r gwaith hwn ac yn ei wneud fesul cam, yn unol ag argaeledd colonosgopi. Mae’n hanfodol bod unrhyw un sy’n cael prawf sgrinio positif yn gallu cael colonosgopi yn brydlon.

Drwy optimeiddio’r rhaglen yn llawn, bydd llawer mwy o achosion canser y coluddyn yn cael eu canfod yn gynharach, pan fydd y clefyd yn gallu cael ei drin yn haws. Bydd hyn yn helpu i wella canlyniadau i bobl.

Rwy’n annog unrhyw un sy’n gymwys i gael prawf i wneud dewis gwybodus o ran cymryd rhan yn rhaglen sgrinio canser y coluddyn.