Rebecca Evans AC, Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Yn fy natganiad dyddiedig 12 Rhagfyr, cyhoeddais y bydd Rheoliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) yn cael eu diddymu. Dyma’r diweddaraf ichi ar y sefyllfa.
Cyn y Nadolig, fe gwrddais â’r FUW, NFU Cymru a’r CLA i bwyso a mesur canlyniad yr her gyfreithiol i’r trefniadau a wnaed ar gyfer rhanbarthau Cynllun y Taliad Sylfaenol. Trafodwyd effaith yr achos, gan gynnwys y tebygolrwydd na fydd hi bellach yn bosibl cyflwyno rhanbarth ar gyfer rhostiroedd yn y broses o ddiwygio’r PAC yn yr amser cyfyngedig sy’n weddill. Gyda’n gilydd fe wnaethom gadarnhau y dylai’r ddau egwyddor arweiniol - sef newid i daliadau wedi’u seilio ar arwynebedd er mwyn lleihau anghyfleustra a defnyddio cyfraddau talu i gydnabod rhinweddau tir - barhau gymaint â phosibl i fod yn sylfaen i ddatblygu’r trefniadau BPS newydd. Mae’n rhaid i ni werthuso’r effaith y gall unrhyw opsiynau a ddefnyddir yn y dyfodol eu cael ar ffermwyr ym mhob rhanbarth tir ac a fydd hi’n bosibl eu cyflawni o fewn yr amser sy’n weddill. Hefyd, bydd yn rhaid yarfarnu’r opsiynau gyferbyn â’r pwyntiau a godwyd yn yr her gyfreithiolddiweddar. Rydym i gyd yn gytûn y dylid gweithio tuag at y canlyniad gorau posibl i ffermwyr Cymru a gwneud hynny mewn dull pragmatig.
Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar opsiynau amgen. Yn ddiweddarach y mis hwn, byddant yn cael eu trafod gan Grŵp Modelu Data’r PAC sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r diwydiant gan gynnwys yr FUW, NFU Cymru, CLA, Cymdeithas Ganolog y Priswyr Amaethyddol (CAAV), Cymdeithas y Ffermwyr Tenant (TFA), CFfI a RICS. Unwaith y cawn farn y grŵp hwn, bydd yr opsiynau a’r cynigion y byddwn yn ymgynghori arnyn nhw’n cael eu hystyried gan Grŵp Lefel Uwch PAC sef y Grŵp sy’n ystyried y polisi’n ehangach ar draws y broses ddiwygio. Mae aelodau’r grŵp yn cynnwys arweinwyr cyrff sy’n rhanddeiliaid. Byddaf yn gofyn i bob un o’r cyrff hyn gefnogi’r ymarfer ymgynghori a chyflwyno’r opsiynau ymarferol sy’n weddill. Unwaith y byddaf yn hapus bod y cynigon yn barod ar gyfer ystyriaeth ehangach, byddwn yn bwrw ymlaen gyda’r ymgynghoriad ffurfiol.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir o’r dechrau mai ffigwr bras yn unig yw pob cyfradd dalu hyd nes y byddai’r hawliau Cynllun y Taliad Sylfaenol i gyd wedi’u pennu’n bendant, mae’n anochel y bydd y sefyllfa ddiwygiedig hon yn arwain at newid yn y taliadau y bydd ffermwyr yn disgwyl eu cael yn y blynyddoedd i ddod. Gan fod cyllideb taliadau Colofn 1 yn parhau i fod yr un fath, mae’n anochel y bydd rhywfaint o ailddosbarthu’n digwydd. Hefyd, mae’n debygol y bydd y gallu i wneud taliadau ym mis Rhagfyr 2015 yn cael ei effeithio o ganlyniad i’r sefyllfa. Pa bynnag opsiwn a ddewisaf yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd yn rhaid i’r Comisiwn Ewropeaidd gymeradwyo’r opsiwn ac maen nhw’n llwyr ymwybodol o’r sefyllfa fel ag y mae hi.