Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Rhagfyr 2018, gwneuthum ddatganiad am becyn o fesurau rheoli i sicrhau bod pysgodfa cregyn moch Cymru yn gynaliadwy yn yr hirdymor. Mae'n dda gennyf fedru cyhoeddi bod fy swyddogion yn cyflwyno deddfwriaeth Gymreig i gynyddu maint lleiaf y cregyn moch y caniateir eu cadw a'u glanio, o 45mm i 65mm. Bydd y cynnydd yn digwydd mewn dau gam, gan godi i 55m yn syth o'r dyddiad y bydd y Gorchymyn yn dod i rym, ac yna i 65mm ymhen blwyddyn i'r dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym. Bydd hyn yn fodd i sicrhau bod cregyn moch anaeddfed yn cael eu diogelu a bydd yn eu galluogi i ddatblygu ac, ymhen amser, i ddod yn rhan o'r bysgodfa. Bydd y mesur hwn yn gymwys i bob cwch o'r DU a fydd yn pysgota yn nyfroedd Cymru.

Bydd darn gwahanol o ddeddfwriaeth yn cyflwyno capiau ar faint o gregyn moch y caniateir i gychod o'r DU bysgota amdanynt. Ar ôl fy natganiad ym mis Rhagfyr 2018, mynegwyd pryderon am faint o amser y byddai’r capiau ar yr hyn a lennir yn parhau, a hefyd am ganlyniadau anfwriadol posibl. Rwyf wedi ystyried y materion hynny ac rwy'n falch o gyhoeddi bod y cyfnod y byddai'r capiau'n gymwys wedi cael ei ddiwygio. Ymhlith y mesurau hyn y mae:

  • Cap o 60 tunnell o gregyn moch fesul cwch ar y cyfanswm y caniateir ei lanio bob chwarter, rhwng mis Ionawr a mis Medi bob blwyddyn. Bydd y mesur hwn yn gymwys i bob cwch o'r DU a fydd yn pysgota yn nyfroedd Cymru.
  • Cap o 15 tunnell o gregyn moch fesul cwch ar y cyfanswm y caniateir ei lanio bob chwarter, yn ystod y cyfnod biolegol sensitif rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr bob blwyddyn. Bydd y cap is hwn yn sicrhau bod stociau cregyn moch sy'n bridio yn cael eu diogelu’n fwy. Bydd y mesur hwn yn gymwys i bob cwch o'r DU a fydd yn pysgota yn nyfroedd Cymru.

Bydd y pecyn hwn o fesurau'n helpu i sicrhau bod stociau pysgod cregyn moch Cymru yn cael eu diogelu'n ddigonol a bod y bysgodfa cregyn moch a'r cymunedau y mae'n eu cynnal yn gynaliadwy yn yr hirdymor. Bydd y newidiadau i'r maint lleiaf yn dod i rym yn haf 2019 ac, ar ôl i’r diwygiadau arfaethedig gael eu gwneud i'r cap ar yr hyn a lennir, bydd y mesurau hynny'n cael eu cyflwyno yn hydref 2019.