Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Ym mis Ionawr, cyhoeddais ymgynghoriad ar yr Offerynnau Statudol sy'n gysylltiedig â Rhan 2 Deddf Tai (Cymru). Rwy'n falch i gyoheddi adroddiad cryno o'r ymatebion i'r ymgynghoriad.
Mae Rhan 2 Deddf Tai (Cymru) 2014 yn gysylltiedig yn benodol â diwygio cyfraith digartrefedd, gan gynnwys gosod dyletswydd gryfach ar Awdurdodau Lleol i rwystro digartrefedd. Mae'r tri offeryn statudol yr ymgynghorwyd yn eu cylch yn gysylltiedig â pha mor addas yw'r llety, y broses adolygu a'r broses ar gyfer ystyried bwriad.
Cafwyd 27 o ymatebion i'r ymgynghoriad gan amrywiol randdeiliaid ac aelodau'r cyhoedd. Rwy'n ddiolchgar i bawb a dreuliodd amser yn cyflwyno eu safbwyntiau. Mae crynodeb o ymatebion wedi'u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi myfyrio ar yr holl sylwadau a dderbyniwyd mewn ymateb i'r ymgynghoriad ac mae nifer o'r ymatebion wedi cael eu hymgorffori yn y gorchmynion diwygiedig. Heddiw, rwyf wedi cyflwyno iddynt ar gyfer craffu pellach gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.