Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn 2017 yn holi barn ynghylch rheoli Pysgodfeydd Cregyn Moch Cymru yn y dyfodol, rwy'n falch o gyhoeddi pecyn o fesurau rheoli, wedi'u datblygu ar y cyd â'r prif randdeiliaid, i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor Pysgodfeydd Cregyn Moch Cymru. Caiff y mesurau eu datblygu yn Offeryn Statudol newydd ar gyfer Cregyn Moch yng Nghymru, a ddaw i rym yn ystod gwanwyn 2019 ac a fydd yn cynnwys:
- Cynnydd fesul cam yn y maint y gellir cadw a glanio cregyn moch, o 45mm i 65mm. Bydd y cynnydd hwn yn digwydd mewn dwy ran gyda chynnydd ar unwaith i 55mm o'r dyddiad y daw yr Offeryn Statudol i rym, gan symud i 65mm y flwyddyn o'r dyddiad y daw y gorchymyn i rym. Bydd hyn yn sicrhau bod cregyn moch sydd heb aeddfedu yn cael eu hamddiffyn, ac yn galluogi iddynt ddatblygu, ac mewn amser, gael eu pysgota yn y pysgodfeydd.
- Mae uchafswm o 20 tunnell y cwch i'r cyfanswm misol y caniateir eu glanio, o fis Ionawr i fis Medi pob blwyddyn. Bydd hyn yn berthnasol i bob cwch sy'n pysgota yn nyfroedd Cymru.
- Bydd uchafswm o 5 tunnell o lanfeydd misol fesul cwch, fesul mis yn ystod y cyfnod sy'n sensitif yn fiolegol o Hydref i Ragfyr bob blwyddyn. Bydd hyn yn sicrhau bod y stociau cregyn moch sy'n magu yn cael eu hamddiffyn. Bydd hyn yn berthnasol i bob cwch sy'n pysgota yn nyfroedd Cymru.
Bydd y pecyn hwn o fesurau o gymorth i sicrhau bod Stociau Cregyn Moch yng Nghymru yn cael eu hamddiffyn yn ddigonol, a chynaliadwyedd hirdymor y pysgodfeydd cregyn moch a'r cymunedau y maent yn eu cynnal.