Neidio i'r prif gynnwy

Yr Arglwydd Elis-Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Datganiad Ysgrifenedig – Offeryn Statudol (OS) ar gyfer Rheoliadau’r Rhaglen Ewrop Greadigol a’r Rhaglen Ewrop i Ddinasyddion (Dirymu) (Ymadael â’r UE) 2019 a’r Cytundeb Asiantaeth cysylltiedig

Y Rheoliadau sy'n cael eu dirymu

Mae'r OS hwn yn dirymu Rheoliad 1295/2013 (sy’n sefydlu'r Rhaglen Ewrop Greadigol ar gyfer y cyfnod rhwng 2014 a 2020) ("Rheoliad EG"), Rheoliad (EU) 2018/596 (sy’n diwygio Rheoliad EG) a Rheoliad y Cyngor (EU) Rhif 390/2014 (sy’n sefydlu’r Rhaglen Ewrop i Ddinasyddion) ("Rheoliad EDd"), fel y'u dargedwir mewn cyfraith ddomestig o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 ("y Ddeddf").

Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a/neu ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru

Nid yw'r OS hwn yn gwneud dim darpariaethau newydd mewn cysylltiad â Senedd y DU neu Lywodraeth y DU mewn perthynas â materion sy'n dod o fewn naill ai cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru. Mae'n cynnwys darpariaethau sy'n dirymu rheoliadau'r UE a ddargedwir yng nghyfraith y DU sy'n ymwneud â'r Rhaglenni hynny ac y mae angen cydsyniad ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru ar eu cyfer.

Diben y dirymiad

Mae'r offeryn hwn yn mynd i'r afael â diffygion a fyddai'n codi mewn Rheoliadau'r UE, ac yn rhoi yn eu lle drefniadau wrth gefn a allai fod yn angenrheidiol yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE pe na bai gytundeb ymadael yn ei le.

Rhaglen Ewrop Greadigol yw rhaglen cymorth ariannol yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y diwydiannau clyweledol a diwylliannol. Mae'n helpu i gynnal hyfforddiant, datblygu prosiectau, a dosbarthu a hyrwyddo gwaith clyweledol a diwylliannol Ewropeaidd. Mae'r Rhaglen Ewrop i Ddinasyddion yn ariannu prosiectau sy'n hyrwyddo dealltwriaeth rhwng yr Undeb Ewropeaidd a'i ddinasyddion, gan ehangu ymwybyddiaeth am yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn Ewropeaidd a datblygu ymdeimlad o hunaniaeth Ewropeaidd. Dechreuwyd y Rhaglenni ar 1 Ionawr 2014 a byddant yn rhedeg tan ddiwedd 2020.

Pe bai'r DU yn ymadael â'r DU heb gytundeb ymadael yn ei le, ni fyddai'r Comisiwn Ewropeaidd bellach yn gallu darparu cyllid i’r rheini yn y DU sy’n cymryd rhan yn y naill Raglen. Felly, yn unol â thelerau gwarant Llywodraeth y DU mewn perthynas â rhaglenni a ariennir gan yr UE a roddwyd yn 2016 a'i hestynnwyd ym mis Gorffennaf 2018 ("Gwarant HMG", yr hysbyswyd amdano i Senedd y DU yn natganiad ysgrifenedig HCWS926), bydd yr offeryn yn rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ddarparu cymorth ariannol, mewn perthynas â Lloegr a Gogledd Iwerddon yn unig, i’r rheini sy’n cymryd rhan yn y Rhaglen Ewrop Greadigol a'r Rhaglen Ewrop i Ddinasyddion – os yw'r Comisiwn Ewropeaidd yn peidio â rhoi cyllid i’r rheini sy’n cymryd rhan yn y DU ar neu ar ôl y diwrnod ymadael am fod y DU wedi ymadael â'r UE.

Mae'r OS a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy'n nodi effaith pob un o'r diwygiadau i'w gweld yma: https://www.gov.uk/eu-withdrawal-act-2018-statutory-instruments/the-creative-europe-programme-and-europe-for-citizens-programme-revocation-eu-exit-regulations-2019

Pam y rhoddwyd cydsyniad

Nid oes gwahaniaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran y polisi ar gyfer y cywiriad. Felly, byddai gwneud trefniadau ar wahân yn arwain at ddyblygu gwaith, a chymhlethdod diangen. Nid yw'r OS yn effeithio ar y setliad datganoli nac yn lleihau pwerau Gweinidogion Cymru, gan nad yw'n rhoi pwerau newydd i'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Chymru.

I alluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i ddarparu cymorth ariannol i’r rheini sy’n cymryd rhan yn y Rhaglenni hyn yng Nghymru, rwyf hefyd wedi cytuno y bydd Gweinidogion Cymru yn ymrwymo i Gytundeb Asiantaeth gyda'r Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag adran 83(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd hyn yn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i ddefnyddio pwerau presennol Gweinidogion Cymru, ar sail dros dro, i dalu’r rheini sy’n cael cymorth gan Ewrop Greadigol a Ewrop i Ddinasyddion yng Nghymru a all fod yn gymwys i gyllid dan y Warant. Bydd y Cytundeb Asiantaeth yn sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn dargadw cymhwysedd. Mae’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi cytuno na fydd yn cyflawni swyddogaethau o dan bwerau Gweinidogion Cymru ond pan fydd yn rhyngweithio â sefydliadau a leolir yng Nghymru. Mae pwerau Gweinidogion Cymru yn deillio o adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Amseru

Fel y nodwyd uchod, mae'r OS hwn yn cynnwys darpariaethau y mae angen cydsyniad ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru ar eu cyfer. Yn anffodus, er bod Llywodraeth Cymru a swyddogion yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi bod yn cydweithio ers mis Hydref 2018 i sicrhau bod modd cyflenwi Gwarant HMG mewn modd sy'n parchu'r setliad datganoli, nid oedd hynny wedi digwydd yn yr achos hwn. Cafodd yr OS ei wneud a'i osod gerbron Senedd y DU heb yn wybod inni ym mis Mawrth eleni. Dim ond wrth i drafodaethau am y Cytundeb Asiantaeth barhau y daethom yn ymwybodol o hyn yn nes ymlaen. Ar 16 Gorffennaf, ar ôl iddi ddod i'r amlwg bod y cytundeb rhynglywodraethol rhwng ein Llywodraethau wedi torri, ysgrifennodd yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd, Jeremy Wright QC AS, ataf yn gofyn am gydsyniad ôl-weithredol. Gwnaeth gydnabod y ffaith bod y cytundeb rhynglywodraethol wedi'i dorri yn anfwriadol ac ymddiheurodd am hynny.

Ymatebais ar 12 Awst i'r Ysgrifennydd Gwladol newydd, y Gwir Anrhydeddus Nicky Morgan AS, gan ddweud er y cefais fy sicrhau gan ddatganiadau ei rhagflaenydd bod y methiant hwn yn anfwriadol, a bod Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r cytundeb rhynglywodraethol, rwy'n ystyried y digwyddiadau hyn yn hynod ddifrifol –  yn enwedig gan na hysbyswyd y Cynulliad Cenedlaethol am yr OS mewn da bryd. Dywedais y byddwn yn cael cyngor pellach ac yn ymgynghori â'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit cyn ymateb i'r cais am gydsyniad ôl-weithredol.

Rydym bellach yn fodlon bod yr OS wedi symud drwy'r prosesau Seneddol gofynnol ac y byddai'n dod i effaith yn gyfreithiol pe bai'r DU yn ymadael â'r UE heb gytundeb. Rydym hefyd yn fodlon nad yw'n effeithio ar y setliad datganoli nac yn lleihau pwerau Gweinidogion Cymru. Ar ben hynny, bydd y Cytundeb Asiantaeth yn sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn dargadw cymhwysedd.

Yn yr amgylchiadau hyn, i sicrhau bod y rheini sy’n cymryd rhan yn y Rhaglenni yng Nghymru yn parhau i gael cyllid, rwy'n barod i roi cydsyniad ôl-weithredol. Heddiw, rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol i roi gwybod iddi am fy mhenderfyniad ac rwyf wedi dweud wrth fy swyddogion i gwblhau'r Cytundeb Asiantaeth terfynol gyda'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Yn fy llythyr, rwyf wedi pwysleisio bod Gweinidogion Cymru yn disgwyl i’r cytundeb rhynglywodraethol gael ei barchu'n gywir a rhaid sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto.