Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn y Datganiad Ysgrifenedig ddoe ynglŷn â’r oedi wrth drin tua 16,000 o ganlyniadau profion mewn Labordai Goleudy rhwng 25 Medi a 2 Hydref, mae Public Health England wedi cadarnhau nad oedd y canlyniadau hyn yn ymwneud â thrigolion Cymru, felly nid ydynt wedi effeithio ar Gymru o ran adrodd am nifer yr achosion positif nac o ran olrhain cysylltiadau.

Rydym yn monitro llif data’r profion o’r Labordai Goleudy a labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ofalus, ac mae unrhyw faterion sy’n dod i’r amlwg yn cael sylw yn syth.  Ar 3 Hydref, cawsom 243 o ganlyniadau (positif a negatif) a gymerodd 4 diwrnod i'n cyrraedd ar ôl eu prosesu mewn labordy.  Er nad ydym yn credu bod hyn yn gysylltiedig â'r broblem ehangach, mae'n tanlinellu'r angen i gadw llygad ar y sefyllfa’n gyson ac i gymryd camau cyflym i ddatrys problemau pryd bynnag y bo angen gwneud hynny.  Mae fy swyddogion wedi codi’r materion hyn â’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Lloegr.

Gallaf gadarnhau hefyd fod y Labordy Goleudy yng Nghasnewydd bellach yn weithredol, a disgwylir y bydd yn gweithio i’w gapasiti llawn dros yr wythnosau nesaf.  Mae’r Labordai Goleudy yn cael eu hariannu a'u rheoli gan Lywodraeth y DU, gan weithio mewn partneriaeth â’r maes diwydiant.  Gweithredir labordy Casnewydd gan Perkin Elmer, busnes rhyngwladol blaenllaw.  Bydd yn rhan bwysig o'n seilwaith profi ond rwyf am ei gwneud yn glir hefyd y byddwn yn parhau i gynnal ein cyfleusterau profi ein hunain yn GIG Cymru, sydd wedi ein galluogi i ymateb i bwysau dros yr wythnosau diwethaf.  Bydd labordy newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn cael ei leoli wrth ymyl y Labordy Goleudy yng Nghasnewydd.  Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod cyfleusterau profi Llywodraeth y DU a rhai Llywodraeth Cymru yn cydweithio'n effeithiol.  Rwy’n disgwyl y bydd labordy Iechyd Cyhoeddus Cymru yn weithredol erbyn mis Rhagfyr.