Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Ar 21 Mehefin 2011, cyhoeddais gynigion ar gyfer cyllido addysg uwch ran-amser a phecyn cymorth newydd i israddedigion rhan-amser sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru. Ar ôl cynnal ymgynghoriad cychwynnol, ac yn sgil derbyn adborth gan randdeiliaid allweddol, cyhoeddais fy mod yn bwriadu oedi, tan ddechrau blwyddyn academaidd 2013/14, cyn rhoi’r system newydd ar waith.
Sefydlais weithgor o dan gadeiryddiaeth Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i gynghori ar y gwaith o weithredu'r system newydd. Ystyriodd y gweithgor yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar newid cymorth i fyfyrwyr rhan-amser ac unrhyw ddulliau eraill o ddarparu cyllid ar gyfer cyrsiau Addysg Uwch rhan-amser sy’n cael eu hastudio am gyfnod sy'n llai na 25% o gwrs amser llawn, ac i fyfyrwyr sydd â chymwysterau lefel gyfwerth (ELQ). Hoffwn ddiolch i aelodau'r gweithgor am eu gwaith ac am y cyngor a gafwyd gan Dr David Blaney, y Cadeirydd.
Er bod rhanddeiliaid a phartneriaid cyflenwi wedi croesawu fy nghyhoeddiad a'r cynnig i weithio er mwyn sicrhau bod mwy o gydraddoldeb rhwng astudiaethau amser llawn a rhan-amser, mae'n glir bod yna gefnogaeth gref o blaid oedi ymhellach cyn rhoi’r trefniadau diwygiedig ar waith.
Ar ôl ystyried barn y gweithgor a rhanddeiliaid, rwyf wedi penderfynu oedi cyn rhoi system ddiwygiedig ar waith ar gyfer ffioedd dysgu a chymorth i fyfyrwyr addysg uwch rhan-amser, a hynny tan flwyddyn academaidd 2014/15.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ystyried dulliau eraill o ddarparu cymorth i fyfyrwyr rhan-amser a sicrhau ein bod yn ystyried yn llawn effaith y newidiadau sydd wedi cael eu cyflwyno i gymorth i fyfyrwyr rhan-amser yn Lloegr. Ni fydd gwybodaeth gofrestru derfynol ar gyfer 2012/13 ar gael am gryn amser eto. Fodd bynnag, yn ôl yr adborth cynnar, mae nifer y myfyrwyr sydd am ddilyn cyrsiau rhan-amser yn Lloegr wedi disgyn yn sylweddol.
Byddaf, felly, yn ystyried yr opsiynau cyn gwneud datganiad arall ar lafar a fydd yn amlinellu ein cynlluniau ar gyfer y system cymorth i fyfyrwyr rhan-amser yn y dyfodol.
Yn y cyfamser, rwyf am barhau i annog astudiaethau rhan-amser yng Nghymru yn unol â nodau Er Mwyn Ein Dyfodol. Gallaf gadarnhau y bydd y pecyn cymorth sy'n bodoli eisoes ar gyfer myfyrwyr rhan-amser sy'n hanu o Gymru yn dal i gael ei gynnig ar gyfer blwyddyn academaidd 2013/2014.
O ganlyniad, bydd myfyrwyr rhan-amser cymwys yn dal i allu gwneud cais am:
- grant ar gyfer ffioedd sy'n dibynnu ar brawf modd;
- grant ar gyfer cwrs sy'n dibynnu ar brawf modd;
- cymorth wedi’i dargedu o fath arall sy'n dibynnu ar brawf modd, ar ffurf Grant Gofal Plant, Grant Oedolion Dibynnol a Lwfans Dysgu i Rieni.