Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd
Yn dilyn fy natganiad ysgrifenedig ar 26 Chwefror, hoffwn esbonio wrth aelodau beth yw’r sefyllfa ddiweddaraf ynghylch cynnyrch cig eidion wedi’u halogi - pwnc a ddaeth i’m sylw gyntaf ar 15 Ionawr.
Mae fy swyddogion a finnau wedi ymgynghori â gweinyddiaethau datganoledig eraill y DU a’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac rwy’n dawel fy meddwl ein bod bellach yn deall hyd a lled y broblem. Credaf yn awr bod angen i ni roi mecanweithiau a threfniadau yn eu lle ar gyfer ynysu a rheoli’r broblem a hefyd, symud yn ei blaenau i ddod dros y digwyddiad ac argyhoeddi’r cyhoedd bod y gadwyn fwyd yn ei hanfod yn ddiogel. Bydd angen hefyd i ni fyfyrio ar ddigwyddiadau’r wythnosau diwethaf a byddaf i a’r ASB yn ystyried beth fydd goblygiadau tymor hir y digwyddiad hwn a sut yr ydym wedi ymateb iddo.
Ddydd Mercher, cefais gyfarfod ag uwch swyddogion gorfodi a chaffael llywodraeth leol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i glywed â’m clustiau fy hun sut y maen nhw wedi bod yn delio â’r pwnc. Mae’n amlwg imi bod y sector cyhoeddus cyfan yng Nghymru wedi ymroi’n galed iawn i weithio gyda’r diwydiant a’r labordai i ddatrys y mater a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfranogi. Gyda thros 5400 o brofion wedi’u cynnal mewn chwe wythnos a mwy ar y gweill, mae hyn yn brawf yn wir o ymrwymiad y diwydiant i ddelio â’r pryderon ar fyrder. Priodol hefyd fyddai estyn fy niolch i’r ASB sydd wedi rhoi cefnogaeth ac arweiniad sylweddol wrth reoli’r sefyllfa.
Rwyf wedi cytuno â CLlLC a’r ASB y byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i ddatblygu trefn brofion newydd drylwyrach ar gyfer sector cyhoeddus Cymru. Nod y drefn honno fydd sbarduno ac ennyn hyder y cyhoedd yn nhrefniadau caffael y dyfodol. Bydd yn cynnwys llunio trefn brofion gadarn, archwiliad o hyd a mesurau rheoli’r gadwyn gyflenwi a chodi ymwybyddiaeth am gyfrifoldebau cyfreithiol y sector cyflenwi. Bydd hynny’n amddiffyn cadwyn gyflenwi’r gwasanaethau cyhoeddus rhag twyll a halogi bwyd. Rhaid diogelu integriti ein bwyd a rhaid i’r cyhoedd deimlo’n hyderus â’r bwyd y maent yn ei fwyta. Bydd awdurdodau lleol Cymru’n datgan eto wrth bob busnes bwyd, boed cynhyrchydd cynradd, prosesydd, cyfanwerthwr neu adwerthwr, mai cyfrifoldeb busnesau bwyd a neb arall yw cynhyrchu bwyd sy’n ddiogel ac sydd wedi’i labelu’n gywir.
Rwyf eisoes wedi gwneud ymrwymiad i gynnal arolwg o’r mesurau gorfodi sydd ar gael i ni yng Nghymru. Mae’n bosibl y byddaf am estyn y gwaith hwn i edrych ar sut mae Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill wedi ymateb i’r digwyddiad. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach ar y mater maes o law gan roi manylion ar hyd a lled a chylch gorchwyl yr arolwg.
Mae’r digwyddiad wedi cael effaith arwyddocaol ar agweddau defnyddwyr, a bydd yn parhau i wneud hynny. Wrth holi defnyddwyr yn ddiweddar, gwelodd yr ASB fod hyder pobl mewn cynhyrchion cig wedi’u prosesu wedi cael cnoc aruthrol, a bod hynny yn ei dro wedi effeithio ar ffigurau gwerthiant ac ar ddyfodol rhai busnesau prosesu.
Yn fy marn i, mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i fynd i’r afael â phroblem hyder y defnyddiwr a byddwn yn parhau i gefnogi ein diwydiant cig ac ailennyn hyder defnyddwyr ynddo. Ddydd Mercher, dechreuais y broses trwy lansio ymgyrch bosteri ar Gig Oen a Chig Eidion Cymru gyda Hybu Cig Cymru. Ar ddydd Gŵyl Ddewi, ymwelais â Tesco’s Talbot Green er mwyn rhoi fy nghefnogaeth i’r amrywiaeth ardderchog o gynnyrch sydd ar gael o Gymru.
Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd ar bob rhan o’r diwydiant cynhyrchu cig ac mae llawer o bobl a busnesau wedi dioddef gan fod lleiafrif bach iawn wedi bod o bosibl yn euog o esgeulustod neu drosedd. Bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i gefnogi’r systemau gorfodi a rheoleiddio. Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi ymchwiliadau’r ASB a’r heddlu. Byddwn nawr yn canolbwyntio ar ailennyn ffydd y ddefnyddiwr a rhoi mesurau yn eu lle i gryfhau’r ffydd hwnnw.