Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn unol â hynny, felly, dyma nodyn o gyfarfod cyntaf y Grŵp i gyd-fynd â’r Datganiad Ysgrifenedig. Rwy’n ddiolchgar am y cyngor a’r goleuni a gynigiwyd gan aelodau’r Grŵp yn y cyfarfod cyntaf, ac edrychaf ymlaen at gyfarfodydd y dyfodol. Byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth i’r Cynulliad am waith y Grŵp ar ôl ei gyfarfod nesaf, a gynhelir ym mis Tachwedd.

Ar 28 Medi, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru Ddatganiad Ysgrifenedig ar sefydlu ein Grŵp Cynghori ar Ewrop. Rôl y Grŵp hwn yw rhoi cyngor i’r Llywodraeth ar yr heriau a’r cyfleoedd a allai godi yng Nghymru wrth i’r DU adael yr UE, yn ogystal â chyngor ar y ffordd orau i Gymru barhau â’i pherthynas gadarnhaol ag Ewrop. Er bod trafodaethau’r Grŵp yn gyfrinachol, dywedodd y Prif Weinidog yn y Datganiad Ysgrifenedig y byddai gwybodaeth am ei waith yn cael ei gynnwys fel rhan o’r wybodaeth sy’n cael ei hadrodd yn rheolaidd i’r Cynulliad Cenedlaethol am hynt y gwaith sy’n gysylltiedig ag ymadawiad y DU â’r UE.