Carl Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio
Fel rhan o waith parhaus y Llywodraeth i gefnogi’r iaith Gymraeg, rwyf heddiw’n cyhoeddi Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20 diwygiedig er mwyn diweddaru’r canllawiau o ran ystyried y Gymraeg yn y system gynllunio.
Mae’r TAN yn adlewyrchu canlyniadau’r drafodaeth adeiladol a gafwyd yn ystod Y Gynhadledd Fawr - trafodaeth genedlaethol ar y Gymraeg a ddechreuwyd gan y Prif Weinidog yr haf hwn yn sgil canlyniadau Cyfrifiad 2011 a oedd yn dangos gostyngiad yn y canran o siaradwyr Cymraeg yn ei chadarnleoedd traddodiadol.
Gall y system gynllunio helpu i greu’r amodau cymdeithasol ac economaidd sy’n rhoi cyfle i bobl siarad Cymraeg, er enghraifft drwy gefnogi datblygiad economaidd a darparu tai fforddiadwy yn y cymunedau lle nodir gan yr awdurdodau cynllunio lleol bod y Gymraeg yn ystyriaeth o bwys. Er bod TAN 20 yn rhoi canllawiau penodol ar gynllunio a'r Gymraeg, ni ddylai gael ei ddarllen ar wahân i ddogfennau polisi perthnasol eraill. Mae Polisi Cynllunio Cymru, TAN 2: Tai Fforddiadwy a TAN 6: Cymunedau Gwledig Cynaliadwy, oll yn cynnwys darpariaethau perthnasol i’r her o gynnal cymunedau Cymraeg eu hiaith
Mae’r TAN 20 diwygiedig yn datgan yn glir y dylid ystyried yr iaith Gymraeg wrth baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol fel rhan o’r broses Arfarnu Cynaliadwyedd pan fo awdurdodau cynllunio wedi nodi bod yr iaith yn ystyriaeth bwysig. Mae’r broses hon yn sicrhau gall y Gymraeg gael ei chynnwys fel ystyriaeth ganolog yn y Cynllun Datblygu Lleol a bod effeithiau polisïau, cynigion a dyraniadau safleoedd ar y Gymraeg yn cael eu hystyried. Mae Cynlluniau Datblygu Lleol yn destun ymgynghori cyhoeddus ac archwiliadau annibynnol; o’u mabwysiadu, byddant yn rhoi sicrwydd i gymunedau a datblygwyr fel ei gilydd ynghylch maint a lleoliad datblygiadau dros gyfnod o 10-15 mlynedd. Bydd canllaw ymarferol pellach yn cael ei ddatblygu i helpu awdurdodau cynllunio lleol i asesu effeithiau posib y Cynllun Datblygu Lleol ar y Gymraeg yn eu hardaloedd fel rhan o Arfarniad ar Gynaliadwyedd. Rwy’n bles fod Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno i ddarparu ymchwil mae wedi ei gyflawni tuag at ddatblygu’r canllaw yma.
Mae’r TAN yn atgoffa awdurdodau lleol i ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg wrth lunio CDLl a bod disgwyl i’r awdurdodau cynllunio gysylltu â’r Comisiynydd cyn gynted ag bo modd er mwyn i’r ystyriaethau perthnasol i’r iaith Gymraeg gael sylw digonol yn ystod y broses o lunio’r Cynlluniau.