Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Chwefror 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Mawrth, cyhoeddwyd Nodyn Cyngor Caffael (PAN) ar  ‘Arferion Cyflogaeth yn achos prosiectau a ariennir yn gyhoeddus’. Fe'i hanfonwyd i bob corff cyhoeddus yng Nghymru i ddarparu canllawiau i’w gwneud yn ofynnol defnyddio arferion cyflogaeth teg yn achos prosiectau a ariennir yn gyhoeddus. Nod y PAN yw sicrhau bod gweithwyr prosiectau a ariennir yn gyhoeddus yn cael eu trin yn deg ac â pharch.


Mae Cod Ymarfer ar gyfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi yn cael ei ddatblygu i gyrff y sector cyhoeddus, busnesau a chyflenwyr yng Nghymru ei ddilyn er mwyn cefnogi datblygu cadwyni cyflenwi mwy moesegol. 


Bydd y cod yn datblygu'r cyfeiriad polisi a nodir yn PAN Arferion Cyflogaeth yn achos Prosiectau a Ariennir yn Gyhoeddus, a hefyd yn PAN Cosbrestru yn y Diwydiant Adeiladu a gyhoeddwyd yn 2013.  Bydd y Cod Ymarfer yn fodd ychwanegol inni fynd i'r afael â materion o ran hunangyflogaeth ffug, cynlluniau ambarél annheg a chosbrestru, yn ogystal â materion ehangach sy'n gysylltiedig â chyflogaeth gan gynnwys chontractau dim oriau annheg a chael gwared ar gaethwasiaeth fodern. Fel rhan o'n cynlluniau i reoleiddio caffael, rydym yn ystyried ffyrdd o ddefnyddio ein pwerau dynodedig i wreiddio ymhellach ein polisïau sy'n cefnogi arferion cyflogaeth teg. 


Er y bu cynnydd da, mae enghreifftiau o hyd o arferion cyflogaeth annheg yn ein prosiectau cyhoeddus.


Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ymrwymo i ddatrys y broblem hon ac rwy'n falch o gael cydweithio â'r undebau ynghylch y mater hwn. Gyda'n gilydd rydym wedi cytuno i gymryd y camau gweithredol canlynol:



  • Datblygu cytundeb ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Undebau i annog sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y trydydd sector a chyflenwyr i ymrwymo i'r Cod Ymarfer;
  • Trafod defnyddio hyfforddiant fel modd i annog ymrwymiad i'r Cod Ymarfer. Ystyried darparu hyfforddiant cychwynnol ar gyfer PAN Arferion Cyflogaeth, cyn lansio'r Cod; 
  • Datblygu protocol newydd i hyrwyddo mabwysiadu PAN Arferion Cyflogaeth. Bydd hwn yn seiliedig ar waith sy'n cael ei wneud yn y GIG yng Nghymru a bydd yn rhan o becyn cymorth y Cod Ymarfer;
  • Trafod sut y gallwn ddefnyddio Erthygl 18(2) o Reoliadau Caffael yr UE, drwy ein pwerau caffael dynodedig, i  atgyfnerthu defnyddio'r Cod Ymarfer os bydd contractau yn ymwneud â'r gymdeithas ac â gweithwyr.


Caiff y Cod Ymarfer ar gyfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi ei lansio ddiwedd y flwyddyn.