Vaughan Gething AC, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Roeddwn yn falch o gyflwyno adroddiad blynyddol y Prif Swyddog Meddygol yn y Senedd fis Chwefror ac roeddwn yn croesawu ei argymhellion cychwynnol ar gyfer dull iechyd cyhoeddus i ddelio â gamblo, sy’n ymdrech i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb niwed. Yn 2016, roedd tua 25,000 o bobl wedi hunangofnodi problem â gamblo yng Nghymru ac amcangyfrifir fod 100,000 o bobl eraill mewn perygl o fod yn gamblwyr problemus (Levels of Problem Gambling in Wales, 2016). Hefyd, dywedodd tua 450,000 o rai 11-16 oed (14% o’r grŵp oedran hwnnw) eu bod wedi gamblo yn yr wythnos flaenorol yn y DU (Young People and Gambling report, Y Comisiwn Gamblo 2018).

Yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad hwn rydym wedi bod yn gweithio ar draws portffolios i ganfod pa gamau y gallwn eu cymryd i leihau niwed sy’n gysylltiedig â gamblo ac effaith hynny ar iechyd a chymdeithas ehangach. Mae ein gwaith yn hyn o beth yn cyd-fynd â’n dull ataliol a fabwysiedir yn ein strategaeth genedlaethol, Ffyniant i Bawb a’r nod i helpu a chefnogi pawb i fyw bywydau iach, ffyniannus a gwerth chweil.

Er mwyn gallu gweithredu yn y maes hwn yn y dyfodol, rhaid i ni ddeall mwy am ymddygiadau gamblo a’r gydberthynas â phryderon iechyd cyhoeddus eraill. Mae cwestiynau am gamblo wedi cael eu gofyn yn ein harolwg o blant oedran ysgol yn ystod 2017/18 a bydd yn cael ei gynnwys yn yr Arolwg Cenedlaethol yn 2020-21. Bydd hyn yn ein galluogi i ddadansoddi ymddygiadau gamblo gyda phroblemau iechyd cyhoeddus eraill fel yfed alcohol ac iechyd meddwl.

Roeddem yn falch o’r cyfle i gael gweithio ag ymchwilwyr ac academyddion â diddordeb mewn niwed sy’n gysylltiedig â gamblo ledled Cymru, drwy gyfrwng seminar a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerdydd yn gynharach eleni a thrwy hyrwyddo’r gwaith y bydd Prifysgol Abertawe yn ei wneud i edrych ar agweddau ar gamblo ymhlith cyn aelodau’r Lluoedd Arfog.

Mae atal yn allweddol i leihau niwed sy’n gysylltiedig â gamblo ac rydym yn ystyried sut y gellid defnyddio cyfryngau presennol i godi ymwybyddiaeth. Mae risg bendant i’n cenhedlaeth iau sy’n cael eu hamlygu i ymddygiadau gamblo o oedran cynnar drwy chwarae gemau ar-lein a lefelau uchel o hysbysebion sydd i’w gweld drwy ystod eang o sianelau. Mae cyngor i rieni a gofalwyr eisoes wedi’i gyhoeddi drwy Hwb Llywodraeth Cymru, ac yn gynharach eleni, ysgrifennais lythyr ar y cyd â  chyn Arweinydd y Tŷ at yr Awdurdod Safonau Hysbysebu, i dynnu sylw at ein pryderon am lefelau hysbysebion gamblo ar y teledu ac ar-lein. Bydd addysg ariannol yn elfen allweddol o’r cwricwlwm newydd, a bydd yn cynnig darpariaeth gref i helpu dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau ariannol, gan gynnwys rheoli arian. Rydym wedi cyhoeddi.

Mae crynhoad mannau gamblo, yn enwedig yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru, yn bryder sy’n cael ei gydnabod. Bydd Llywodraeth Cymru’n ystyried canfyddiadau adroddiad ar y cyd ar Gamblo ac Iechyd Cyhoeddus gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Phrifysgol Bangor fel sail i gamau lleol a chenedlaethol i atal niwed sy’n gysylltiedig â gamblo ledled Cymru. Gall hyn gynnwys ystyried a allwn ddefnyddio newidiadau arfaethedig i’r system gynllunio i fynd i’r afael â ‘gorgrynhoad’ o siopau betio (Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gyfuno Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 (UCO) a Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (GDPO)).

Mae angen gwella’r ymwybyddiaeth gyffredinol bod modd i bobl sy’n dioddef o niwed sy’n gysylltiedig â gamblo fynd i weld eu meddyg teulu am gyngor ac argymhellion i gael cymorth priodol, ac felly hefyd gwybodaeth ymhlith darparwyr gofal sylfaenol bod gwasanaethau cymorth o’r fath ar gael. Mae trafodaethau’n cael eu cynnal ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn â sut y gellid integreiddio gamblo cyhoeddus mewn hyfforddiant ymyriadau byr ar gyfer gweithwyr gofal sylfaenol yng Nghymru. Byddwn hefyd yn gweithio â’r trydydd sector i roi sylw i leoliad ac argaeledd gwasanaethau triniaethau pwrpasol ar gyfer gamblwyr problemus. Ym mis Ionawr, bydd Llywodraeth Cymru’n cynnal trafodaeth ar y cyd â’r Comisiwn Gamblo i ddod â rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd i ystyried y mater hwn yn ogystal â meddwl am gamau gweithredu y gall Lywodraeth Cymru a’r Comisiwn Gamblo eu cymryd yng Nghymru yn y dyfodol.

Rydym wedi penderfynu peidio â defnyddio pwerau Gweinidogion Cymru yn achos peiriannau hapchwarae ods sefydlog cyn i Lywodraeth y DU gyflwyno newidiadau i’r bet mwyaf y gellir ei gwneud ar y peiriannau hyn gan fod effaith yr hyn y gallem ei gyflawni o fewn yr amserlen mor gyfyngedig. Roeddwn wedi ysgrifennu at yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i fynegi fy siom ynglŷn â’r oedi cyn gweithredu’r polisi hwnnw o ystyried yr effeithiau pellgyrhaeddol a fyddai’n parhau o ganlyniad i’r penderfyniad hwnnw. Rwyf yn falch y bydd y newidiadau’n cael eu gweithredu erbyn Ebrill 2019 a bod y diwydiant gamblo hefyd yn ymateb i alwadau i weithredu, gyda’r cyhoeddiad diweddar gan rai o’r cwmnïau ar-lein mwyaf eu bod am roi’r gorau o’u gwirfodd i ddarlledu hysbysebion yn ystod darllediadau byw o ddigwyddiadau chwaraeon. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gynyddu’r gwahanol opsiynau sydd ar gael i fynd i’r afael â mater gamblo problemus.

Drwy weithio mewn partneriaeth â darparwyr trydydd sector, rydym yn cydnabod bod peth gwaith da’n digwydd yng Nghymru ond mae llawer mwy angen ei wneud o hyd. Felly, byddwn yn parhau i wneud yr hyn a allwn yn y Llywodraeth hon i fynd i’r afael â niwed sy’n gysylltiedig â gamblo, gan gofio’r cyfyngiadau i’r pwerau sydd gennym.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn diweddaru aelodau. Os hoffai aelodau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar y mater hwn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd byddaf yn hapus i wneud hynny.