Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Chwefror 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Bydd Aelodau yn ymwybodol i mi gyhoeddi Papur Gwyn, Diwygio Llywodraeth Leol: Grym i Bobl Leol, ar 3 Chwefror 2015. Teitl adran 3.15 yw Cost Uwch Dimau Rheoli mewn Llywodraeth Leol.
Rwyf wedi derbyn rhai ymholiadau ynglŷn â’r adran hon. Er mwyn osgoi amheuaeth, y ffigurau yn yr adran hon yw’r rhai a gyhoeddwyd gan yr awdurdodau lleol eu hun yn eu datganiadau o gyfrif ar gyfer 2013/14. Yn unol â gofyniadau’r Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005 a Chod Ymarfer CIPFA ar Gyfrifyddu Llywodraeth Leol, mae gofyn i awdurdodau lleol gyhoeddi manylion eu huwch reolwyr, gan gynnwys teitlau swyddi a chyflogau. Defnyddiwyd yr un diffiniad o uwch dimau rheoli gan Swyddfa Archwilio Cymru yn eu hadroddiad o fis Chwefror 2014, ‘Tâl uwch reolwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru’.
Pwrpas yr adran hon yn y Papur Gwyn yw i ddangos yr ystod eang yn niferoedd yr uwch reolwyr mewn llywodraeth leol nad yw’n ymddangos ei bod yn cyfateb i faint na gwariant refeniw gros yr awdurdod lleol. Fy mwriad yw i ysgogi dadl am nifer a thâl uwch reolwyr mewn llywodraeth leol, yr wyf innau’n cysidro’n ormodol. Ar sail Cod CIPFA, mae Swyddfa Archwilio Cymru yn diffinio uwch reolwyr fel pawb sydd â chyflog dros £150,000 y flwyddyn, ac unrhyw berson sydd â chyflog o o leiaf £60,000 y flwyddyn, gan gynnwys y pennaeth gwasanaeth cyflogedig, unrhyw brif swyddog statudol neu anstatudol, ynghyd ag unrhyw berson gyda chyfrifoldeb am reolaeth o gorff llywodraeth leol, i’r graddau hynny fod gan y person bŵer i gyfarwyddo neu reoli prif weithrediadau’r corff.
 
Mae’r Papur Gwyn yn defnyddio’r term llawfer ‘cyfarwyddwr’ i gynnwys y rheiny mewn swyddi uwch reolwyr. I egluro’n gliriach y testun yn y Papur Gwyn, fe wna’i ddiwygio adran 3.15 i wneud yn eglur y bwriedir i’r gair ‘cyfarwyddwr’ gynnwys yr oll o uwch reolwyr mewn llywodraeth leol, nid dim ond y rhai sydd â’r gair penodol cyfarwyddwr yn nheitl eu swydd. Yn eu hadroddiad o fis Tachwedd 2014 ar ‘Gyflog Uwch Reolwyr’, argymhellodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad y dylid cynhyrchu a lledaenu diffiniad clir o’r hyn a olygir gan swydd uwch. Byddaf yn ysgrifennu at Archiwlydd Cyffedinol Cymru i geisio’i farn ar y mater.
Does gen i ddim amheuaeth y byddai’r cyhoedd ac Aelodau’r Cynulliad yn cytuno mai’r rhain yw uwch reolwyr llywodraeth leol. Cyfanswm eu cost o gronfeydd ariannol cyhoeddus yn 2013/14 oedd £25.7 miliwn