Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Cyhoeddwyd y Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd ar gyfer Cymru ym mis Gorffennaf 2013. Mae'n pennu dull Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â Diogelwch ar y Ffyrdd tan y flwyddyn 2020. Flwyddyn yn ddiweddarach, mae'n amser da i roi'r newyddion diweddaraf i Aelodau ar y datblygiadau o ran gweithredu'r prif gamau yn y Fframwaith.
Gosodwyd targed heriol gan y Fframwaith am ostyngiad o 40% yng nghyfanswm y bobl sy'n cael eu lladd neu eu niweidio'n ddifrifol ar ffyrdd Cymru erbyn 2020. Cafodd dau o grwpiau risg uchel eu nodi, a gosodwyd targedau penodol am ostyngiad o 25% yn nifer y beicwyr modur sy'n cael eu lladd neu eu niweidio'n ddifrifol a gostyngiad o 40% yn nifer y bobl ifanc sy'n cael eu lladd neu eu niweidio'n ddifrifol. Roedd y tri targed wedi'u gosod yn erbyn gwaelodlin 2004-08.
Mae'r ystadegau diogelwch ar y ffyrdd ar gyfer 2013 yn dangos gostyngiad cyffredinol yng nghyfanswm y damweiniau traffig oedd yn arwain at anafiadau. Fodd bynnag, er bod y mân anafiadau yn parhau i ostwng, bu i nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu niweidio'n ddifrifol gynyddu y llynedd. Mae ffigurau ar gyfer pob blwyddyn unigol yn amrywio, ac nid ydynt yn ddibynadwy o ran rhagweld beth fydd yn digwydd yn y dyfodol, ond pe byddai hyn yn parhau, byddai'n golygu bod canlyniadau'r damweiniau yn mynd yn fwy difrifol.
Yn 2013, roedd nifer y cerddwyr, y beicwyr a'r beicwyr modur a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol yn fwy na nifer y defnyddwyr ceir. Mae hyn yn golygu bod angen inni hefyd warchod pob carfan fregus sy'n defnyddio'r ffyrdd, yn ogystal â'r ddau grŵp risg uchel sydd eisoes wedi'u nodi. Byddaf yn ystyried y data, ac os yn briodol, yn nodi camau penodol pellach ar gyfer y grwpiau hyn.
Hyd yn hyn eleni, cafodd saith-deg o bobl eu lladd ar y ffyrdd yng Nghymru. Ac er bod hyn yn debyg iawn i'r nifer yn ystod yr un cyfnod y llynedd, a'r flwyddyn flaenorol, mae unrhyw farwolaethau ar y ffordd yn drasiedi y mae'n rhaid inni geisio eu hosgoi.
Rwy'n bendant bod angen ymdrechu mwy i atal damweiniad ar y ffyrdd ble y bo'n bosibl, neu i leihau eu difrifoldeb. Mae Llywodraeth Cymru a'n partneriaid yn yr awdurdodau lleol a'r gwasanaethau brys yn cydweithio i sicrhau hyn. Mae hyn yn cynnwys dadansoddi y data ar ddamweiniau yn drylwyr i dynnu sylw at feysydd i weithredu ynddynt.
Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion edrych ar sut y gallwn gryfhau ein hymdrechion ar ddiogelwch ar y ffyrdd a sicrhau eu bod yn ganolog i'n dull o weithio ym maes trafnidiaeth. Nodwyd yn glir yn y Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd i Gymru y byddai angen cydweithio'n agos â'n partneriaid er mwyn parhau i ostwng nifer yr anafiadau.
Rwy'n cyfarfod Arweinwyr yr Awdurdodau Lleol yn rheolaidd yn ogystal â Phrif Gwnstabliaid Cymru ac rwy'n sylweddoli pwysigrwydd gweithredu parhaus ar y cyd i wella mwy ar ddiogelwch ar ffyrdd Cymru. Byddaf yn parhau i gasglu'r wybodaeth arbenigol honno.
Gyda'r Heddlu, byddaf yn ariannu camerâu gorfodi'r traffig yng Nghymru a bydd mwy a mwy o dechnoleg ar gyfer gorfodi cyflymder hefyd yn cael ei defnyddio i orfodi pobl i ddefnyddio gwregysau diogelwch ac i sylwi ar bobl sy'n defnyddio ffonau symudol yn anghyfreithlon.
Rwyf hefyd wedi newid pwyslais Grŵp Strategol Diogelwch ar y Ffyrdd Cymru Gyfan i sicrhau fod pob Awdurdod Lleol yn cael eu cynrychioli, yn ogystal â'n partneriaid yn y Gwasanaethau Brys a'r trydydd sector. Bydd y cyfarfodydd hynny yn canolbwyntio ar y data sy'n dod i law ar ddamweiniau ac yn ceisio cael cymorth gan bartneriaid i benderfynu ar y ffordd orau o weithredu. Mae is-grwpiau penodol sy'n canolbwyntio ar bobl ifanc a beicwyr modur wedi'u sefydlu hefyd.
Mae arweinwyr Awdurdodau Lleol wedi rhoi y newyddion diweddaraf imi am y rhaglenni diogelwch ar y ffyrdd y maent yn eu gweithredu, sy'n rhoi darlun gwell o'r hyn sy'n digwydd ledled Cymru, fel y gallwn ddechrau sylwi ar arferion da neu ar fylchau. Rhoddodd arweinwyr yr awdurdodau lleol fanylion y gwaith sy'n weddill i wella diogelwch a mynediad o amgylch ysgolion a bydd yr wybodaeth hon yn helpu i lywio rhaglenni gwaith yn y dyfodol.
Mae diogelwch ar ein rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd yn fater difrifol imi, ac rwy'n parhau i geisio sicrhau bod gwelliannau i beirianneg diogelwch ar y ffyrdd ar y rhwydwaith cefnffyrdd yn digwydd mewn mannau ble y mae risg uchel o ddamweiniau difrifol.
Rwy'n falch iawn o fod yn gweithio gyda Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru i nodi y problemau o ran diogelwch ar y ffyrdd sy'n achosi pryder i blant a phobl ifanc sy'n mynychu ysgolion sydd wedi'u lleoli ar y cefnffyrdd ac i ddatblygu rhaglen o waith i fynd i'r afael â'r materion hyn, a byddaf yn cyhoeddi hyn cyn y Nadolig.
Rwyf wedi rhoi cyllid Grant Diogelwch ar y Ffyrdd i Awdurdodau Lleol ar gyfer cynlluniau cyfalaf a refeniw yn 2014/15. Wrth bennu'r amcanion ar gyfer y grant rwyf wedi bod yn glir bod yn rhaid i adnoddau gael eu targedu ar y camau fydd yn lleihau damweiniau. Cafodd y cyllid cyfalaf ei neilltuo ar sail gystadleuol, a dim ond i gynlluniau ble yr oedd rhywun wedi ei ladd neu ei anafu'n ddifrifol. Rwy'n ddiolchgar i'r Heddlu ac i RoSPA am gefnogi fy Adran i asesu'r ceisiadau a gyflwynwyd ac am roi cyngor cadarn wrth imi drefnu'r dyfarniadau grant.
Rwy'n parhau i fod angen arfarniad o effeithiolrwydd cynlluniau diogelwch ar y ffyrdd i sicrhau fod cyllid yn canolbwyntio ar y cynlluniau hynny sy'n lleihau anafiadau. Gan ystyried hyn wrth ddyrannu cyllid refeniw, nodais bedwar o brif ymyriadau y dylid ystyried eu cyllido. Mae'r ymyriadau hyn yn cefnogi'r ddau gategori risg uchel a phlant fel defnyddwyr ffyrdd sy'n agored i niwed. Sef:
- Hyfforddi Beicwyr Modur
- Pass Plus Cymru
- Kerbcraft
- Hyfforddiant Beicio Safon Cenedlaethol
Mae rhywfaint o amrywiaeth yn y ffordd y mae'r rhaglenni hyn yn cael eu cyflawni ledled Cymru ac, er bod rhywfaint o deilwra lleol yn briodol i gydnabod natur y rhwydwaith ffyrdd a thraffig mewn gwahanol rannau o Gymru, byddai angen i unrhyw wahaniaethau o'r fath gael eu cyfiawnhau o ran yr effaith ar anafiadau. Er mwyn sicrhau nad ydym am weld amrywiaeth er mwyn hynny, ac i sicrhau y gallwn nodi'r rhalgenni sy'n cael yr effaith fwyaf ar leihau anafiadau, rwyf wedi gofyn i'm swyddogion gynnal nifer o arfarniadau. Byddwn yn edrych ar Pass Plus Cymru a hyfforddi beicwyr modur a hyfforddiant ar gyfer gyrwyr hŷn yn y flwyddyn ariannol hon, a bydd canlyniadau'r asesiadau hyn yn llywio pa raglenni fydd yn cael eu hariannu yn y dyfodol.
Roeddwn yn falch iawn o ymweld ag Ysgol Gynradd Porthcawl heddiw i weld y gwelliannau fydd yn cael eu gwneud drwy'r buddsoddiad Llwybrau Diogel mewn Cymunedau. Mae'r prosiect hwn ac un yn Ysgol Gynradd Tremains yn brosiectau ychwanegol y bu'n bosibl imi eu hychwanegu at y rhestr o brosiectau i'w cyflawni o dan y cynllun grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau eleni.
Byddaf yn parhau i ganolbwyntio ar ddiogelwch ar y ffyrdd, ac yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau ar y datblygiadau.