Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae teithio rhyngwladol yn parhau i fod yn risg o ran mewnforio heintiau coronafeirws i Gymru, yn enwedig amrywiolion newydd sy’n peri pryder ac amrywiolyn sy’n dod i’r amlwg sy’n peri pryder. Ein cyngor o hyd yw na ddylai pobl deithio dramor oni bai am resymau hanfodol.
Mae’r mesurau iechyd ar y ffiniau sydd mewn grym ledled y DU yn mynd rywfaint o'r ffordd i ddiogelu rhag mewnforio heintiau a chyflwyno amrywiolion newydd.
Mae dull cydweithredol ar draws y pedair gwlad yn hanfodol i werthuso a gweithredu trefniadau effeithiol ar gyfer rheoli ffiniau. Gan fod Cymru'n rhannu ffin agored â Lloegr, a bod y rhan fwyaf o deithwyr i Gymru yn cyrraedd drwy byrth y tu allan i Gymru, nid yw'n effeithiol cael trefniadau polisi iechyd ar y ffiniau ar wahân ar gyfer Cymru.
Heddiw, rwyf wedi cytuno i ddileu Kenya, Oman, Twrci, Pacistan, Bangladesh, Maldives, Sri Lanka a’r Aifft oddi ar y rhestr goch. Daw’r newidiadau i rym o 4am ddydd Mercher 22 Medi ymlaen.
Byddwn yn ystyried yn ofalus newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i’r mesurau iechyd ar y ffiniau, sy’n cynnwys dileu’r gofyniad i gael prawf cyn ymadael a chyflwyno profion llif unffordd yn lle profion PCR ar yr ail ddiwrnod ar ôl i deithwyr ddychwelyd i’r DU. Bydd ein hystyriaethau wedi’u seilio ar dystiolaeth gadarn a’n prif nod o hyd fydd lleihau’r risg i iechyd y cyhoedd yng Nghymru.
Nid yw’r newidiadau hyn yn ddi-risg – maent yn gwanhau’r llinell amddiffyn rhag mewnforio heintiau ac maent yn cynyddu cyfleoedd i heintiau newydd ac amrywiolion newydd gyrraedd y DU a Chymru. Gall brechlynnau helpu i leihau’r risg hon, ond dim ond os byddant yn effeithiol yn erbyn amrywiolion newydd sy’n peri pryder, amrywiolyn sy’n dod i’r amlwg sy’n peri pryder ac amrywiolion risg uchel sy’n destun ymchwiliad.