Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi newidiadau i’r rhestrau o wledydd coch, oren a gwyrdd yn Lloegr ar gyfer teithio rhyngwladol. Er gwaethaf ein hymdrechion parhaus i geisio cael penderfyniadau ar gyfer y DU gyfan yn y maes hwn, mae penderfyniadau ar gyfer Lloegr wedi'u gwneud unwaith eto heb drafod â Llywodraeth Cymru na'r Llywodraethau Datganoledig eraill.

Mae hyn yn annerbyniol – mae’r polisi teithio rhyngwladol yn effeithio ar bob rhan o'r DU ac mae angen i fuddiannau Cymru gael eu hystyried fel rhan o’r broses benderfynu.

Rydym yn hynod siomedig â’r dull gweithredu unochrog hwn ac yn credu bod risgiau amlwg o hyd i iechyd y cyhoedd wrth roi’r hawl i deithio’n rhyngwladol tra bo'r feirws yn ar led yn fyd-eang. Am y rhesymau hyn, rydym yn parhau i argymell na ddylid teithio’n rhyngwladol yr haf hwn ac eithio am resymau hanfodol.

Fodd bynnag, gan ein bod yn rhannu ffin agored â Lloegr, ni fyddai'n ymarferol nac yn bosibl cyflwyno polisi iechyd gwahanol ar wahân ar gyfer y ffin.

Felly, byddwn ninnau’n gwneud yr un newidiadau â’r rhai sy'n cael eu gwneud yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, er mwyn cynnal yr un system goleuadau traffig â gweddill y DU.  

Yn sgil hynny:

  • Bydd Awstria, yr Almaen, Slofenia, Slofacia, Latfia, Romania a Norwy yn cael eu symud o’r rhestr oren i’r rhestr werdd.
  • Bydd Georgia, La Réunion, Mayotte a Mecsico yn cael eu symud o’r rhestr oren i’r rhestr goch.
  • Bydd India, Bahrain, Qatar a'r Emiraethau Arabaidd Unedig yn cael eu symud o’r rhestr goch i’r rhestr oren.
  • Bellach, ni fydd pobl sydd wedi'u brechu'n llawn yn y DU, yn Ewrop neu yn Unol Daleithiau America, gyda brechlynnau cymeradwy, yn gorfod hunanynysu a chymryd prawf PCR ar yr wythfed diwrnod ar ôl cyrraedd o Ffrainc.

Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym am 4am ddydd Sul 8 Awst. 

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Pe bai aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.