Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n dal i alw ar bobl i feddwl yn ofalus cyn teithio dramor am resymau nad ydynt yn hanfodol yr haf hwn. Mae peryglon amlwg yn parhau i iechyd y cyhoedd yn sgil caniatáu i bobl deithio’n rhyngwladol unwaith eto. Ceir perygl hefyd o fewnforio achosion ac amrywiolynnau sy’n peri pryder o dramor, gan gynnwys amrywiolynnau sy’n dianc rhag effaith brechlyn.

Gan fod y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn agored, er gwaetha’r ffaith ein bod yn bryderus am y peryglon sy’n gysylltiedig â theithio, rydym o’r farn nad oes unrhyw ffordd ymarferol i Lywodraeth Cymru allu datblygu ei pholisi iechyd ei hun ar gyfer y ffin – a gwneud hynny ar wahân i wledydd eraill y DU.

Felly, yn unol â’r newidiadau sy’n cael eu gwneud yng ngwledydd eraill y DU, rwyf wedi cytuno i ychwanegu Montenegro a Gwlad Thai at y rhestr goch ac i ychwanegu Denmarc, Lithwania, y Ffindir, y Swistir a Liechtenstein, ynysoedd Açores, a Chanada at y rhestr werdd.

Bydd y newidiadau hyn yn dod i effaith am 4am ddydd Llun 30 Awst.

Rwy’n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am sicrwydd y bydd yn cynnal trefniadau gwyliadwriaeth cyson a chadarn – gan gynnwys profion cyn ymadael, profion PCR ar ddiwrnod 2 a dadansoddi dilyniant genom y canlyniadau fel un mesur lliniaru yn erbyn mewnforio amrywiolynnau sy’n dianc rhag effaith brechlyn. 

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod toriad y Senedd er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach, neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.