Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau gweithio ar gyflwyno newidiadau i'r Rheoliadau Safonau Marchnata Wyau, gan ddileu gofyniad i ail-labelu neu ail-becynnu wyau maes mewn sefyllfaoedd lle gwnaeth y Prif Swyddog Milfeddygol orchmynion ar letya heidiau oherwydd Ffliw Adar. 

Mae'r cyfnod 'rhanddirymiad' presennol o dan y Rheoliadau Safonau Marchnata Wyau yn datgan, pan gyflwynir mesurau gorfodol ar letya, y gellir parhau i labelu wyau o adar maes fel 'wyau maes' am 16 wythnos. Mae'r UE (ac yn ddiofyn Gogledd Iwerddon) eisoes wedi dileu'r gofyniad hwn. Mae'r DU a'r Alban hefyd wedi ymgynghori ar newidiadau i reoliadau yn gynharach eleni. 

Yn dilyn canlyniadau ymchwil gyda defnyddwyr ac ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru dros yr haf, rwyf wedi penderfynu dileu'r cyfnod rhanddirymiad ar gyfer wyau maes yng Nghymru.  Mae rhywfaint o waith ychwanegol yn mynd rhagddo ar safonau marchnata dofednod, a bydd diweddariadau pellach ar hyn maes o law. 

Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr arolwg defnyddwyr a'r ymgynghoriad cyhoeddus.