Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ar 5 Awst, cyhoeddodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ddatganiadau sy’n egluro ei gyngor ar newidiadau i’r rhaglenni feirws papiloma dynol (HPV) ac imiwneiddio plant. Mae’r Cyd-bwyllgor wedi argymell y canlynol:
- symud at roi un dos o’r brechlyn HPV i grwpiau penodol, a
- newid yr amserlen imiwneiddio arferol ar gyfer babanod gan fod y ddarpariaeth o’r brechlyn Menitorix© (Hib/MenC) yn dod i ben.
Brechu yn erbyn HPV
Mae’r brechlyn HPV yn helpu i ddiogelu pobl rhag canserau a achosir gan HPV, gan gynnwys canser ceg y groth, rhai canserau'r geg a’r gwddf, a rhai canserau’r anws a’r organau cenhedlu. Mae mwy a mwy o dystiolaeth am lwyddiant y rhaglen hyd yn hyn. Mae astudiaeth a gafodd ei hariannu gan Cancer Research UK, ac a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn dangos bod y cyfraddau canser ceg y groth ymysg y menywod hynny a oedd wedi cael cynnig y brechlyn rhwng 12 ac 13 oed, ond sydd bellach yn eu hugeiniau, 87% yn is nag mewn poblogaeth sydd heb gael ei brechu.
Ers dechrau 2020, mae’r Cyd-bwyllgor wedi bod yn ystyried tystiolaeth ynglŷn â newid yr amserlen brechu yn erbyn HPV o ddau ddos i un dos pan fydd ar gyfer y rheini sy’n iau na 15 oed. Ar ôl ystyried y dystiolaeth hon, mae’r Cyd-bwyllgor wedi cynghori y dylid gweithredu’r amserlenni canlynol ar gyfer y rhaglen HPV:
- amserlen sy’n cynnig un dos ar gyfer y rhaglen reolaidd i’r glasoed a’r rhaglen MSM cyn eu pen-blwydd yn 25 oed
- amserlen sy’n cynnig dau ddos ar ôl 25 oed yn y rhaglen MSM
- amserlen sy’n cynnig tri dos i unigolion sy’n imiwnoataliedig a’r rheini sy’n HIV positif.
Wrth gyhoeddi ei argymhelliad, mae’r Cyd-bwyllgor wedi cyfeirio at dystiolaeth gadarn y gallai un dos o’r brechlyn HPV fod yn ddigon i amddiffyn unigolyn yn effeithiol am gyfnod hir o amser os caiff y brechlyn ei gynnig ar ddechrau’r cyfnod glasoed. Mae hyn yn cael ei gefnogi gan y Grŵp Cynghori Strategol Arbenigol ar Imiwneiddio, Sefydliad Iechyd y Byd, y daeth ei adolygiad yn 2022 i’r casgliad bod un dos o’r brechlyn HPV yn darparu diogelwch effeithiol rhag HPV, ar lefel y gellir ei chymharu â’r lefel a ddarperir gan amserlenni dau ddos. Bydd y Cyd-bwyllgor yn parhau i adolygu ei gyngor, ac i gymryd y camau priodol lle bo angen.
Rwyf wedi derbyn y cyngor hwn, a bydd fy swyddogion yn gweithio gyda GIG Cymru er mwyn gweithredu’r newidiadau perthnasol. Bydd symud at drefn un dos yn golygu bod cyn lleied â phosibl o dorri ar draws gweithgarwch ysgolion, a bydd hefyd yn creu mwy o gapasiti oherwydd y lleihad mewn sesiynau brechu, gan barhau i gynnal y lefelau hynod uchel o lwyddiant wrth frwydro yn erbyn HPV a lleihau canserau drwy un dos yn unig.
Newidiadau i’r amserlen arferol ar gyfer babanod - Menitorix© (Hib/MenC)
Mae Haemophilus influenzae math b (Hib) yn haint bacterol sy’n gallu achosi nifer o gyflyrau difrifol, yn enwedig mewn plant ifanc. Roedd heintiau Hib yn arfer bod yn broblem iechyd difrifol yn y DU, ond mae imiwneiddio babanod yn erbyn Hib fel mater o arfer ers 1992 wedi arwain at sefyllfa lle mae’r heintiau hyn bellach yn brin.
Yr unig frechlyn sydd ar gael ar y farchnad i atal Hib/ MenC yw Menitorix©. Mae’r Cyd -bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi cael gwybod na fydd Menitorix© (Hib/MenC) yn parhau i gael ei ddarparu. Mae hynny’n golygu y bydd angen newid yr amserlen arferol ar gyfer babanod, gan fod y brechlyn hwn yn cael ei roi ar hyn o bryd i fabanod 12 mis oed.
Ar ôl ystyried yr opsiynau’n ofalus, mae’r Cyd-bwyllgor bellach yn cynghori fel a ganlyn:
- dylid cynnig dos ychwanegol o frechlyn multivalent sy’n cynnwys Hib i fabanod 12 mis neu 18 mis oed (byddai rhoi hwn pan fyddant yn 18 mis yn golygu bod angen creu ymweliad imiwneiddio newydd).
- dylai’r ail ddos o’r brechlyn rhag y frech goch, clwy’r pennau a rwbela (y brechlyn MMR) gael ei ddwyn ymlaen o 3 blwydd a 4 mis oed i 18 mis oed er mwyn gwella lefel yr amddiffyniad.
- yn seiliedig ar y dystiolaeth glir bod lleihad yn y clefyd meningococol ymledol (invasive meningococcal) clefyd A, C, W ac Y yn y DU (yn bennaf o ganlyniad i lwyddiant y rhaglen brechu MenACWY i bobl ifanc yn eu harddegau a niferoedd isel o achosion), nid yw cynnwys dos o frechlyn sy’n cynnwys MenC yn yr amserlen ar gyfer babanod yn cael ei argymell – mae ymdrechion i gynnal a gwella lefel yr amddiffyniad MenACWY ymysg y glasoed yn bwysig er mwyn cynnal imiwnedd torfol.
Rwyf hefyd wedi derbyn y cyngor a roddwyd gan y Cyd-bwyllgor ar y mater hwn. Bydd y stoc bresennol yn parhau i fod ar gael hyd at 2025, ac felly nid ydym yn disgwyl i’r newid ddigwydd ar unwaith. Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn gweithio gyda GIG Cymru ar y trefniadau y mae eu hangen ar gyfer gweithredu’r newidiadau i’r rhaglen frechu ar gyfer babanod a phlant. Byddwn yn annog bod plant, pobl ifanc a’u rheini a’u gofalwyr yn dilyn y cyngor Iechyd Cyhoeddus drwy sicrhau eu bod yn cael eu himiwneiddio’n llawn i’w diogelu rhag clefydau a allai fod yn ddifrifol.
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn sicrhau bod Gweinidogion yn parhau i gael gwybodaeth. Os bydd Aelodau am inni wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.