Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Tai ac Adfywio

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Newidiadau i reoliadau ariannol yn eithrio datblygwyr sydd am gymryd rhan yn y cynllun Cymorth i Brynu - Cymru rhag gorfod cael Trwydded Credyd Defnyddwyr.

Fel Gweinidog Tai ac Adfywio, fy mhrif flaenoriaeth yw cynyddu'r cyflenwad tai yng Nghymru.  Fel rhan o'r gwaith hwn, lansiwyd cynllun Cymorth i Brynu - Cymru gennyf ym mis Ionawr eleni: cynllun benthyciadau ecwiti a rennir gwerth £170 miliwn, sydd wedi'i lunio i helpu pobl i fod yn berchnogion ar eu tai, ysgogi gwaith adeiladu, a rhoi hwb gwerthfawr i'r sector dai.

Mae'r cynllun eisoes wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i godi hyder yn y sector adeiladu yng Nghymru, rhywbeth sydd wedi'i adlewyrchu yn yr ystadegau tai diweddaraf sy'n dangos cynnydd yn nifer y safleoedd newydd sy'n cael eu datblygu ar draws Cymru.  Fodd bynnag, yng ngoleuni'r cynnydd hwn, rwyf hefyd wedi bod yn edrych ar ffyrdd o ehangu manteision y fenter i ddetholiad ehangach o ddatblygwyr a phrynwyr, drwy roi sylw i unrhyw rwystrau rhag cymryd rhan.

Ar sail ymatebion gan Aelodau'r Cynulliad, etholwyr a'r diwydiant adeiladu'n gyffredinol, mae'n amlwg bod y gofyniad cyfreithiol i adeiladwyr gael trwydded credyd defnyddwyr cyn cofrestru gyda'r cynllun Cymorth i Brynu - Cymru wedi bod yn rhwystr sylweddol gan gofio'r costau perthnasol wrth gael y drwydded gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.  

Er nad yw rheoliadau ariannol yn fater sydd wedi'i ddatganoli, rwyf wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU i ddiwygio'r ddeddfwriaeth yn y maes hwn.  Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu cyflwyno'r Offeryn Statudol canlynol: The Financial Services and Markets Act 2000 (Regulated Activities) (Amendment) (No. 3) Order 2014.  I gael rhagor o fanylion, ewch i:

http://www.legislation.gov.uk/uksi/2014/1740/contents/made

Dan y ddeddfwriaeth hon, o heddiw (28 Gorffennaf 2014) ymlaen, nid oes gofyn bellach i adeiladwyr sydd am gymryd rhan yn y cynllun Cymorth i Brynu - Cymru gael trwydded credyd defnyddwyr er mwyn cymryd rhan yn y cynllun.  O ganlyniad, rwyf wedi diwygio'r broses gofrestru ar gyfer datblygwyr er mwyn adlewyrchu hyn, fel y gwelir ar wefan Cymorth i Brynu - Cymru:

http://helptobuywales.co.uk/builder-registration/how-to-register

“Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am y mater hwn pan fydd y Cynulliad wedi ailymgynnull, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.”