Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â'r newidiadau sy'n cael eu gwneud yng ngweddill y DU, rwy’n cadarnhau heddiw y bydd pob teithiwr sydd wedi'i frechu'n llawn sy'n cyrraedd Cymru yn gallu cymryd prawf llif unffordd yn hytrach na'r gofyniad presennol i gymryd prawf PCR.

Daw'r newidiadau i rym yng Nghymru ddydd Sul, 31 Hydref.

O ddydd Sul 31 Hydref ymlaen bydd pob oedolyn yng Nghymru sydd wedi cwblhau eu cwrs dau ddos o'r brechlyn COVID-19 a'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc dan 18 oed, sydd wedi teithio o wledydd nad ydynt ar y rhestr goch, yn gallu cymryd prawf llif unffordd ar ddiwrnod 2, neu cyn hynny, ar ôl iddynt gyrraedd y DU.

Os bydd pobl yn cael canlyniad prawf llif unffordd positif ar ôl iddynt ddychwelyd o deithio dramor, bydd gofyn iddynt hunanynysu am 10 diwrnod a chymryd prawf PCR dilynol.

Bydd y dewis ar gael o hyd i bobl drefnu a chymryd prawf PCR fel y prawf gofynnol ar ddiwrnod 2, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno'r newidiadau hyn yn Lloegr ddydd Sul 24 Hydref. Nid ydym yn gallu cyflwyno'r newidiadau ar yr un pryd gan nad ydym wedi cael digon o wybodaeth mewn da bryd gan Lywodraeth y DU ynghylch sut y bydd y newidiadau hyn yn gweithio’n ymarferol.

Nid yw hyn yn ddelfrydol. Fodd bynnag, er gwaethaf y gwahaniaethau am gyfnod byr, bydd trigolion Cymru sy'n dymuno teithio yn gallu gwneud hynny. Yr unig beth fydd yn wahanol o’i gymharu â Lloegr fydd y bydd angen i drigolion Cymru barhau i archebu prawf PCR diwrnod 2 tan 31 Hydref. Gellir archebu profion PCR y GIG ar borth archebu CTM a gellir archebu profion y sector preifat gan ddarparwr preifat sydd wedi’i restru ar GOV.UK

Rydym yn dal i fod yn bryderus am ddull gweithredu Llywodraeth y DU – a pha mor gyflym y mae’n mynd ati o ran agor teithio rhyngwladol a'i phenderfyniadau i newid y mesurau iechyd ar y ffin, sy'n amddiffyniadau pwysig i atal y risg y bydd achosion newydd – ac amrywiolion newydd o’r coronafeirws – yn dod i mewn i'r DU.

Rydym wedi annog Llywodraeth y DU yn gyson i ddefnyddio dull rhagofalus o ran ailagor teithio rhyngwladol.

Fodd bynnag, mae'n anodd inni fabwysiadu trefn brofi wahanol i'r hyn sy'n ofynnol gan Lywodraeth y DU, gan fod y rhan fwyaf o deithwyr o Gymru yn dod i mewn i'r DU drwy borthladdoedd a meysydd awyr yn Lloegr. Byddai cael gofynion profi gwahanol yn achosi problemau ymarferol sylweddol, dryswch ymhlith y cyhoedd sy'n teithio, materion logistaidd, trefniadau gorfodi ar ein ffiniau ac anfanteision i fusnesau Cymru.

Rydym wedi dod i'r penderfyniad hwn drwy gydbwyso anghenion iechyd y cyhoedd â rhai'r sector teithio yn erbyn cefndir o ailagor cynyddol o ran teithio rhyngwladol. Ar ôl ystyried y goblygiadau'n fanwl, rwyf wedi penderfynu'n gyndyn am resymau ymarferol mai cyd-fynd yn agos â threfniadau Llywodraeth y DU yw'r opsiwn mwyaf addas.

Rydym yn parhau i annog pobl i deithio am resymau hanfodol yn unig.

Rwyf yn pryderu bod Llywodraeth y DU, yn ei brys i gyflwyno'r newidiadau diweddaraf hyn i deithio rhyngwladol, wedi creu system sydd â diffyg goruchwyliaeth a safonau i'r farchnad weithredu ynddi. Rwyf wedi ysgrifennu at yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofyn am sicrwydd y bydd y system ar gyfer profion llif unffordd ar ddiwrnod 2 yn cael ei chryfhau i:

  • Anfon prawf PCR yn awtomatig at bawb sydd â chanlyniad positif i leihau unrhyw oedi yn y broses
  • Mynd i'r afael â sut y caiff y system ei gorfodi a sicrhau na fydd pryderon y gwnaeth yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd dynnu sylw atynt am ‘ras i'r gwaelod’ ar brofion PCR yn cael eu hailadrodd ar gyfer profion llif unffordd
  • Sicrhau bod canlyniadau profion yn llifo mewn modd amserol a chywir gan ddarparwyr profion preifat i systemau Cymru, er mwyn sicrhau nad yw gallu gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu y GIG i gysylltu â phobl sy'n cyrraedd Cymru yn cael ei beryglu.

Rhaid i benderfyniadau am deithio rhyngwladol gael eu gwneud yn wirioneddol ar sail pedair gwlad. Mae’r rhain yn benderfyniadau sy'n effeithio ar bobl sy'n byw ym mhob rhan o'r DU ac ni allwn eu gwneud ar wahân i'n gilydd.