Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae grŵp Cyngor, Canllawiau ac Arbenigedd Iechyd y Cyhoedd (PHAGE), Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) wedi cyflwyno tystiolaeth i'r pedwar Prif Swyddog Meddygol ynghylch hyd y cyfnod hunanynysu ar gyfer achosion o COVID-19 a'r potensial i leihau'r cyfnod hwnnw drwy ailadrodd profion dyfeisiau llif unffordd (LFD). Cynghorwyd bod cyfnod o 7 diwrnod o hunanynysu ynghyd â dau brawf llif unffordd negatif yn cael fwy neu lai yr un effaith amddiffynnol i bobl â COVID-19 â chyfnod o 10 diwrnod o hunanynysu heb brawf llif unffordd. Mae’r dull newydd yn seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf am ba mor hir y mae achosion o COVID-19 yn trosglwyddo’r feirws i eraill. Mae hefyd yn ffordd o gefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a chadwyni cyflenwi dros y gaeaf gan gyfyngu ar ledaeniad y feirws. 

Daw'r cyngor hwn yng nghyd-destun y niferoedd o achosion sy'n cynyddu’n gyflym a'r materion staffio  a welir ar draws y gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Felly, rwyf wedi penderfynu ar sail cyngor iechyd y cyhoedd bod y cynnydd bach yn y risg y gallai pobl heintus gael eu rhyddhau o fod yn hunanynysu yn cael ei gydbwyso gan y manteision cymdeithasol ehangach a ddaw yn sgil lleihau’r cyfnod hunanynysu ynghyd â’r potensial i’r polisi hwn gynyddu’r parodrwydd i gydymffurfio â chanllawiau hunanynysu.

O 31 Rhagfyr, os yw person yn hunanynysu fel achos positif ar hyn o bryd neu os yw person yn profi'n bositif am COVID-19, mae’n rhaid iddynt hunanynysu am saith diwrnod.  Ar ddiwrnod chwech o hunanynysu dylent gymryd prawf llif unffordd a phrawf arall 24 awr yn ddiweddarach. Os yw canlyniadau'r ddau brawf  yn negatif, mae'n debygol nad ydynt yn heintus. 

Fodd bynnag, os yw'r naill brawf neu'r llall  a gymerir ar ddiwrnod chwech neu ddiwrnod saith yn bositif dylai’r person barhau i hunanynysu hyd nes y cânt ddau brawf llif unffordd negatif neu tan ddiwrnod 10 -  pa un bynnag sydd gyntaf.  Mae canlyniad positif ar ddiwrnod chwech neu ddiwrnod saith yn dangos bod y person yn debygol o fod yn heintus o hyd ac felly mewn perygl o drosglwyddo coronafeirws i eraill.  

Mae'n hanfodol bod pawb yn hunanynysu ac yn defnyddio profion llif unffordd yn y ffordd a gynghorwyd i sicrhau eu bod yn amddiffyn eraill rhag y risg o gael eu heintio.

Gallwch gael profion llif unffordd drwy:

Bydd newidiadau gweithredol i'n system olrhain cysylltiadau yn cael eu gwneud cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod achosion positif yn derbyn y cyngor a'r arweiniad priodol. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn digwydd ar unwaith gan fod newidiadau i'r system yn cymryd amser i’w rhoi ar waith.  

Mae Ap COVID-19 y GIG yn parhau i gefnogi ein system Profi Olrhain Diogelu a chaiff ei ddiweddaru gyda gwybodaeth i ddefnyddwyr yr ap i'w hysbysu am y newidiadau yng Nghymru.

Rydym yn ystyried goblygiadau'r newidiadau hyn ar gyfer ein Cynllun Taliadau Cymorth Hunanynysua  byddwn yn parhau i ddarparu cymorth ariannol a chymorth ehangach i'r sawl sydd angen cymorth i hunanynysu, gan gynnwys cael gafael ar fwyd a nwyddau fferyllol. 

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Pe byddai'r aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.