Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau 

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Awst 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Bydd yr Aelodau’n gwybod am ein hymyrraeth yng Nghyngor  Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn sgil adroddiad beirniadol Estyn ym mis Mai 2011, a’r feirniadaeth bellach yn adroddiad yr ailarolygiad ym mis Ionawr 2013. Rwy’n gwneud y datganiad hwn er mwyn i’r Aelodau wybod am y camau pellach yr wyf yn eu cymryd.  


Yn ystod ei arolygiad ym mis Mai 2011, gwelodd Estyn fod perfformiad gwasanaethau addysg yr awdurdod lleol yn anfoddhaol, a hefyd bod y rhagolygon o ran gwella hefyd yn anfoddhaol. Yng ngoleuni’r diffygion tra difrifol hyn, roedd Estyn o’r farn bod angen gweithredu mesurau arbennig mewn perthynas â’r awdurdod hwn. Yn ystod yr ailarolygiad a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2013, daeth Estyn i’r casgliad eto fod perfformiad gwasanaethau addysg yr awdurdod, a’r rhagolygon o ran gwella, yn anfoddhaol, a bod angen parhau i weithredu mesurau arbennig mewn perthynas â’r awdurdod hwn.


Heddiw, rwy’n cyhoeddi bod aelod ychwanegol wedi ymuno â’r Bwrdd Adfer ym Mlaenau Gwent er mwyn cryfhau ei weithgarwch. Penodwyd Gary Owen i’r Bwrdd er mwyn cefnogi arweinyddiaeth wleidyddol yr awdurdod.  


Byddaf yn parhau i roi gwybod i’r Aelodau am unrhyw ddatblygiadau.  

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi gwybodaeth i aelodau.  Os carai aelodau imi wneud datganiad pellach neu i ateb cwestiynau amdano wedi i’r Cynulliad ailymgynnull, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.