Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae gan gyrff llywodraethu ysgolion rôl hollbwysig a heriol i’w chwarae wrth sicrhau llwyddiant ein hysgolion. Y cyrff llywodraethu sy’n pennu cyfeiriad strategol yr ysgol a nhw sy’n dwyn y pennaeth i gyfrif am berfformiad addysgol ac ariannol yr ysgol.

Rwyf yn gwerthfawrogi’r cyfraniad mae llywodraethwyr yn ei wneud i godi safonau ysgolion. Fodd bynnag, er mwyn bod yn llwyddiannus, rwy’n cydnabod bod angen y sgiliau angenrheidiol arnynt.

Yn ôl adroddiad diweddaraf Estyn, mae llawer mwy o lywodraethwyr bellach yn cynnig mwy o her i arweinwyr ysgolion nag yn y gorffennol. Er hynny, gwelodd Estyn hefyd nad yw llywodraethwyr mewn oddeutu 15% o ysgolion cynradd a lleiafrif o ysgolion uwchradd yn cynnig digon o her i arweinwyr.

Cylch gwaith gwreiddiol Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar lywodraethu ysgolion a sefydlwyd gan y cyn-Weinidog Addysg, Leighton Andrews, oedd ystyried pa mor addas at y diben oedd y fframwaith llywodraethu. Daeth i’r casgliad bod angen i gyrff llywodraethu fod yn fwy medrus yn eu rôl o lywodraethu a bod angen iddynt fedru recriwtio’n ehangach er mwyn denu’r unigolion gorau oll i gymryd rhan yn y gwaith o lywodraethu ysgolion.

Argymhellodd y Grŵp newid o’r model presennol o randdeiliaid i batrwm yn seiliedig ar “Randdeiliaid a Mwy” wrth lywodraethu ysgolion a fyddai’n cadw’r cyfraniad gwerthfawr y mae nifer o randdeiliaid eisoes yn ei wneud yn rhan o’r model presennol o lywodraethu ysgolion ond lle byddai’r elfen “a Mwy” yn caniatáu i gyrff llywodraethu yr hyblygrwydd a’r rhyddid i recriwtio  llywodraethwyr ychwanegol ar sail y sgiliau oedd eu hangen.

Yn ei adroddiad “Step Change – A new approach for schools in Wales” dywedodd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) “the focus for composition of governing bodies must be skills - ensuring the right people with the right skills are in place is the key to effectiveness”. Dyma gasgliad yr Adroddiad “More freedom should be given to governing bodies to determine their composition based on skills, rather than representative roles such as parent governor, LA governor or staff governor”.

Mae’r model presennol o lywodraethu ysgolion wedi bodoli ers 1996 a phrin iawn fu’r newidiadau a wnaed iddo. Yn ôl y model presennol, rhaid i ysgolion ffurfio eu cyrff llywodraethu ar sail niferoedd y disgyblion mewn ysgol. Nid oes opsiwn i wyro oddi ar y strwythurau ac nid oes raid ystyried y sgiliau a’r arbenigedd y gall unigolion eu cynnig wrth benodi llywodraethwyr. Y mae’r pwyslais pennaf ar y grwpiau strwythurol y mae’r llywodraethwyr yn eu cynrychioli yn hytrach nag ar y sgiliau maent yn meddu arnynt.

Yn yr hydref, rwy’n cynnig ymgynghori ar gyflwyno newidiadau i fframwaith deddfwriaethol llywodraethu ysgolion er mwyn ei wneud yn fwy hyblyg. O dan y cynigion, caiff llywodraethwyr eu penodi ar sail y sgiliau sydd ganddynt i’w cynnig a bydd modd i gyrff llywodraethu eu trefnu eu hunain mewn modd a fydd yn bodloni eu hanghenion penodol. Caiff model y rhanddeiliaid ei gadw, ond bydd mwy o sylw yn cael ei roi ar greu cyrff llywodraethu sy’n meddu ar y sgiliau angenrheidiol gyda’r hyblygrwydd i wneud eu penderfyniadau eu hunain am eu cyfansoddiad a’u haelodaeth. Bydd disgwyl i gyrff llywodraethu wneud archwiliad o’r sgiliau sydd gan eu haelodau er mwyn gweld a oes unrhyw fylchau yn ystod y sgiliau sy’n ofynnol iddynt gyflawni eu cyfrifoldebau’n effeithiol.

Cynigiaf hefyd ddiwygio cyfansoddiad ac aelodaeth cyrff llywodraethu. O dan y trefniadau arfaethedig bydd lleiafswm o saith llywodraethwr ar gyfer pob ysgol ar wahân i ysgolion gwirfoddol ac ysgolion sefydledig. Bydd y cyrff llywodraethu yn cynnwys cynrychiolwyr rhieni, staff (hynny yw, cyfuniad o athrawon a staff), yr awdurdod lleol, y gymuned, llywodraethwyr sefydledig, llywodraethwyr partneriaeth a disgyblion lywodraethwyr yn ogystal â’r pennaeth. Bydd categori newydd o ‘Lywodraethwyr Cyfetholedig’ a gaiff eu recriwtio’n benodol am eu sgiliau.

Tra bydd lleiafswm y niferoedd ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol ac ysgolion sefydledig yn uwch gan y bydd angen iddynt gadw at y gofyniad ar gyfer llywodraethwyr sefydledig a llywodraethwyr partneriaeth, y bwriad yw na fydd terfyn ar fwyafswm y niferoedd ar gyfer unrhyw fath o gorff llywodraethu.

Credaf fod rhieni’n bartneriaid hollbwysig yn y gwaith o redeg ysgol. Mae sicrhau parhad eu cyfraniad ar gyrff llywodraethu yn hanfodol i sicrhau bod ysgolion yn cael eu llywodraethu’n effeithiol. Cynigiaf gadw rhieni lywodraethwyr sydd wedi’u hethol gan eu cymheiriaid yn hytrach na chael eu penodi i’r corff llywodraethu. Fodd bynnag, rydw i am fynd ymhellach ac estyn categori rhieni lywodraethwyr er mwyn cael rhieni lywodraethwyr fydd wedi’u penodi ochr yn ochr â’u cyd-weithwyr etholedig ar bob corff llywodraethu.

Wrth i’r olaf o’r ddau gael eu penodi gan y corff llywodraethu, credaf ei bod yn briodol, yn ogystal â’r holl lywodraethwyr eraill sydd wedi’u penodi, bod rhieni lywodraethwyr sydd wedi’u penodi’n meddu ar y sgiliau addas. Bydd gan gyrff llywodraethu’r hyblygrwydd i benderfynu pa sgiliau’n union fydd yn ofynnol er mwyn sicrhau eu bod yn llywodraethu eu hysgolion unigol yn effeithiol wrth wneud y penodiadau hyn.

Cynigiaf hefyd ganiatáu i rieni cyn-ddisgyblion gael eu penodi’n rhieni lywodraethwyr gan y credaf y gallai’r grŵp hwn fod yn ffynhonnell gyfoethog o lywodraethwyr medrus. Yn hollbwysig, cynigiaf derfynu’r system gyfredol lle mae terfyn ar nifer y rhieni lywodraethwyr all wasanaethu ar gyrff llywodraethu.

Bydd gan gyrff llywodraethu’r hyblygrwydd i gael cynifer o rieni lywodraethwyr ag y mynnant. Yr unig ofynion fydd na ddylai nifer y rhieni lywodraethwyr fydd yn cael eu hethol fod yn fwy na nifer y rhieni lywodraethwyr fydd yn cael eu penodi. Hefyd, dylai pob corff llywodraethu gael o leiaf un rhiant lywodraethwr sydd wedi’i ethol ac un rhiant lywodraethwr sydd wedi’i benodi.

Bydd y fframwaith newydd arfaethedig yn rhoi i gyrff llywodraethu’r hyblygrwydd i gynyddu neu ostwng eu niferoedd yn haws ar yr amod eu bod yn bodloni’r gofynion o ran lleiafswm y niferoedd. Rwyf hefyd yn cynnig galluogi cyrff llywodraethu i benodi ‘aelodau cyswllt’ neu aelodau nad ydynt yn llywodraethwyr ar bwyllgorau lle bo angen arbenigedd neu brofiad penodol. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd cyrff llywodraethu am benodi archwilydd neu gyfrifydd yn aelod cyswllt ar eu pwyllgor cyllid.

Caiff y gofyniad i gynnwys aelod annibynnol – sydd ar hyn o bryd yn berthnasol yn unig lle bo pwyllgor disgyblu a gwahardd staff yn delio â mater lle bo niwed wedi ei achosi i blentyn – ei estyn i holl bwyllgorau disgyblu a gwahardd staff, yn ogystal â phwyllgorau dewis penaethiaid a dirprwy benaethiaid. Bydd hyn o gymorth i lywodraethwyr wrth gymryd y penderfyniadau cymhleth a sensitif sy’n codi’n aml wrth i’r pwyllgorau hyn ddelio â materion o’r fath.

Diben y cynigion hyn yw cryfhau rôl llywodraethwyr ysgol wrth sicrhau gwell deilliannau i ddisgyblion. Byddai’r cynigion yn berthnasol i gyrff llywodraethu’r holl ysgolion a gynhelir gan gynnwys ysgolion ffederal. Cynhelir ymgynghoriad 12 wythnos ar y cynigion yn yr hydref.