Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 3 Gorffennaf 2014, cyhoeddodd fy rhagflaenydd newidiadau i fesurau perfformiad ysgolion ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 o ganlyniad i’r Adolygiad o Gymwysterau, gan gynnwys diwygio’r Sgôr Pwyntiau wedi’i Chapio.

Ers yr adeg honno, fodd bynnag, rydym wedi dechrau gweithio ar gwricwlwm newydd yn rhan o raglen Dyfodol Llwyddiannus. Rydym hefyd wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu system atebolrwydd newydd ym maes addysg yng Nghymru.

Yn rhan o’r gwaith hwnnw, fe wnaethon ni edrych ar yr argymhellion a wnaed yn deillio o’r Adolygiad o Gymwysterau i weld a ydynt yn cyd-fynd bellach â’r trywydd rydyn ni’n ei ddilyn ar hyn o bryd. Barn y grŵp gorchwyl a gorffen a fu’n edrych ar atebolrwydd ac yn trafod â’r proffesiwn yw nad dyma’r amser i gyflwyno’r Sgôr Pwyntiau wedi’i Chapio ar ei ffurf ddiwygiedig yn brif ddangosydd ar ddiwedd addysg orfodol at y dyfodol.

Rwyf am weld mesurau perfformiad Cyfnod Allweddol 4 yn cyd-fynd â’r dull i’w fabwysiadu o sicrhau atebolrwydd wrth i hyn amlygu ei hun drwy raglen Dyfodol Llwyddiannus. Bydd hefyd yn sail i system adrodd mewn partneriaeth â rhanddeiliaid, un sy’n briodol ar gyfer fframwaith cwricwlwm diwygiedig ac un a all fod yn effeithiol wrth wella deilliannau ein dysgwyr unigol.

Rwyf felly wedi penderfynu nad ydym am ganolbwyntio mwyach ar y Sgôr Pwyntiau wedi’i Chapio, ar ei ffurf ddiwygiedig, fel prif ddangosydd. Yn hytrach, caiff ei chynnwys fel rhan o’r gyfres gyfan o fesurau Cyfnod Allweddol 4, gan barhau i ganolbwyntio ar gyrhaeddiad dysgwyr a helpu ysgolion ac awdurdodau lleol yn eu gwaith o hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella.

Mae hyn oll yn unol â’r argymhellion a wnaed yn adroddiad Dyfodol Llwyddiannus ac fe gaiff effaith bositif o ran ehangu’r dewisiadau sydd ar gael o fewn y cwricwlwm.

Byddaf yn parhau i weithio a gwrando ar y proffesiwn wrth i ni ddatblygu ymhellach ein gwaith ar raglen Dyfodol Llwyddiannus ar y cyd â’n gilydd.