Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Wrth i ni drosglwyddo i economi sero net, bydd y potensial am effeithiau cadarnhaol a negyddol yn amrywio ledled Cymru. Bydd yr effeithiau yn cael eu teimlo ar wahanol bobl, grwpiau a lleoedd, yn debyg iawn i effeithiau newid hinsawdd eu hunain. Felly, mae'n hynod bwysig ein bod fel cenedl yn cynllunio llwybr i Sero Net sy'n rhagweld y buddion a'r effeithiau negyddol ac yn dod o hyd i ffyrdd o sicrhau eu bod yn cael eu dosbarthu yn deg.
I gynorthwyo gyda hyn, heddiw, rwyf wedi cyhoeddi'r Ymgynghoriad ar y Fframwaith Pontio Teg. Yr ymgynghoriad hwn yw’r cam nesaf ar gyfer datblygu ein dull o weithio, ac mae’n adeiladu ar ein Galwad am Dystiolaeth a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2022. Mae'r Ymgynghoriad yn cydnabod ehangder y camau gweithredu sy'n ofynnol gan lu o bobl a sefydliadau i gynllunio a gweithredu Pontio Teg i Gymru. Y nod yw cyhoeddi Fframwaith terfynol yn 2024, a fydd yn helpu i lywio Cynllun Sero Net nesaf Cymru, a gaiff ei gyhoeddi yn 2026. Hefyd, caiff y Fframwaith ei anelu at yr holl bartneriaid sy’n gysylltiedig â datblygu cynlluniau a chamau gweithredu ar gyfer datgarboneiddio.
Lansiwyd yr Ymgynghoriad i gyd-fynd ag Wythnos Hinsawdd Cymru 2023. Bydd y digwyddiad eleni yn parhau tan 8 Rhagfyr ac yn edrych ar y thema 'tegwch'. Bydd y digwyddiad yn ceisio mynd i'r afael â sut y gallwn sicrhau bod buddion sy'n gysylltiedig â pholisïau hinsawdd yn cael eu dosbarthu'n deg ar draws cymdeithas. Dros yr wythnos, cynhelir sesiynau a digwyddiadau amrywiol gan Lywodraeth Cymru, busnesau, y sector cyhoeddus, y trydydd sector a chymunedau. Rwy'n annog Aelodau o'r Senedd i gofrestru ar gyfer y digwyddiad a chymryd rhan.
Mae heddiw hefyd yn nodi'r cyhoeddiad terfynol ar gyfer Cyllideb Carbon 1 (2016-20) a thrwy hynny ddod â'n rhwymedigaethau statudol ar gyfer cyfnod y Gyllideb Garbon i ben. Ym mis Rhagfyr y llynedd, gosodais gerbron y Senedd Ddatganiad Terfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyllideb Garbon 1, gan nodi ein bod wedi cyrraedd targed y gyllideb garbon a tharged interim 2020. Roedd y Datganiad Terfynol hefyd yn asesu'r rhesymau dros gyrraedd y targedau a chyfraniad Llywodraeth Cymru. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd (CCC) gyhoeddi adroddiad cynnydd ar gyfer Cymru o fewn chwe mis i'r Datganiad Terfynol. Cyhoeddwyd ‘Adroddiad Cynnydd: Lleihau allyriadau yng Nghymru' y CCC ar 6 Mehefin. Yna mae'n rhaid i ni ymateb i'r adroddiad cynnydd o fewn chwe mis.
Roedd y Pwyllgor yn cydnabod bod Cymru wedi cyrraedd ei tharged ar gyfer 2020 a’i chyllideb garbon gyntaf (2016-20), ac y “cafwyd rhai camau cadarnhaol yng Nghymru, gyda ffocws gan Weinidogion ar sgiliau, swyddi ac ymgysylltu â’r cyhoedd ar gyfer y cyfnod pontio Sero Net, sydd i’w groesawu.” Fodd bynnag, nododd y Pwyllgor hefyd y byddai angen cyflymu’r gwaith o leihau allyriadau er mwyn sicrhau fod Cymru’n cyrraedd ei thargedau cyllidebau carbon a sero net.
Heddiw, rwyf i, felly, yn gosod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad cynnydd CCC. Mae ein hymateb yn mynd i'r afael â phob un o 58 o argymhelliion y CCC, a 19 'mater arall i'w datrys'. Fe wnaethom hefyd gomisiynu Llywodraeth y DU i ymateb i asesiad y CCC o feysydd lle'r oedd cynnydd mewn perygl mawr oherwydd camau gweithredu Llywodraeth y DU. Mae'r ymateb felly'n cyflawni ein cyfrifoldebau o dan adran 45(7) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Mae cyhoeddiadau heddiw ac Wythnos Hinsawdd Cymru yn cyd-fynd â Chynhadledd y Partïon y Cenhedloedd Unedig (COP28), a gynhelir yn Dubai yr wythnos hon a'r nesaf. Bydd uwch swyddogion Llywodraeth Cymru yn bresennol. Bydd COP28 yn ystyried cynnydd byd-eang wrth gyflawni Cytundeb Paris gan roi cyfle i gywiro trywydd a'r cyfle i ymrwymo i weithredu pellach, lle nad yw wedi bod yn ddigonol hyd yma ac osgoi effeithiau gwaethaf newid hinsawdd, na fydd yn cael ei deimlo'n gyfartal ar y boblogaeth fyd-eang. Bydd y gynhadledd felly'n rhoi ffocws ychwanegol ar sut y gellir gwasanaethu cyfiawnder cymdeithasol wrth i ni fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Mae llawer o waith i'w wneud yn rhyngwladol o hyd, nid yw'r byd cyfan ar lwybr Sero Net ar gyfer 2050, yr ydym yn ei ystyried yn hanfodol i gyfyngu ar newid yn yr hinsawdd i 1.5°C fel y nodir yng Nghytundeb Paris. Hyd yn oed lle mae'r targedau'n bodoli, mae gweithredu'n aml y tu ôl i'r uchelgais, ac mae'r wyddoniaeth yn parhau i anfon arwyddion sy'n gynyddol wael. Mae heriau geowleidyddol, cymdeithasol ac economaidd byd-eang mewn perygl o dynnu ein sylw oddi wrth yr angen i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Allwn ni ddim gadael i hyn ddigwydd. Rhaid i ni ymdrechu i ddarparu'r economi carbon isel a fydd yn cynnal cenedlaethau'r dyfodol, yn hytrach na chilio o'r dasg a rhoi baich ar genedlaethau'r dyfodol. Mae hyn yn cynnwys y rheidrwydd i leihau'r ddibyniaeth fyd-eang ar danwydd ffosil.
Yn COP26 yn Glasgow, ymunodd Llywodraeth Cymru â'r Beyond Oil and Gas Alliance, sydd wedi ymrwymo i sicrhau pontio teg a reolir i ffwrdd o gynhyrchu olew a nwy. Wrth wneud hynny daeth Cymru yn un o wyth aelod 'craidd', a'r unig aelod o'r DU. Mae'r gynghrair hon yn parhau i ddangos yr arweinyddiaeth fyd-eang sydd ei hangen i ddod ag echdynnu a defnyddio tanwydd ffosil i ben mewn dull a reolir. Rwy'n falch bod y gynghrair yn parhau i dyfu wrth i lywodraethau a gwledydd eraill rannu ein huchelgeisiau i gyflawni Cytundeb Paris.
Yn COP a thrwy ein perthynas barhaus â chydweithwyr o wladwriaethau a rhanbarthau eraill a thrwy fy arweinyddiaeth fel aelod o'r Grŵp Llywio y Gynghrair Dan2, bydd Cymru'n parhau i rannu ein profiadau ar y llwyfan byd-eang, lle mae eraill yn awyddus i ddysgu o'n llwyddiannau. Bydd angen i ninnau hefyd ddysgu oddi wrth eraill. Trwy gydweithio byddwn nid yn unig yn sicrhau cenedl Sero-Net, decach a iachach. Dyma sut y byddwn yn cyflawni'r un peth ar gyfer holl ddinasyddion y ddaear.