Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 14 Mehefin y llynedd, cyhoeddais ganlyniad ymgynghoriad a oedd yn cynnig y dylai’r cyfrifoldeb dros wasanaethau gofal iechyd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gael ei drosglwyddo o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i  Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf; ac y dylai’r ffin rhwng y byrddau iechyd gael ei symud yn unol â hynny.

Cyhoeddais hefyd, ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad a thrafod gyda’r byrddau iechyd a’r cyngor y newidiadau y byddai angen eu gwneud i roi’r cynigion ar waith, mai fy marn glir oedd y dylai’r ffin rhwng y byrddau iechyd gael ei newid yn unol â’r cynnig, gan ddod i rym o 1 Ebrill 2019.

Mae Llywodreath Cymru wedi gosod y Gorchymyn a fydd yn rhoi effaith i’r newid yn y ffin erbyn 1 Ebrill.

Yn dilyn cynigion gan y byrddau iechyd a chyfnod o ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol yn lleol, bydd enwau’r byrddau iechyd yn cael eu newid hefyd i adlewyrchu’r trefniadau newydd o safbwynt y ffin:

  • Bydd enw Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf yn newid i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf Morgannwg;
  • Bydd enw Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn newid i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Bae Abertawe.

Rwy’n ddiolchgar i’r byrddau iechyd, i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac i sefydliadau eraill sydd wedi gweithio mewn partneriaeth i gyflawni’r newidiadau sydd eu hangen i sicrhau trosglwyddiad llwyddiannus i’r trefniadau newydd ac i sicrhau bod gwasanaethau iechyd yn cael eu cynnal ar draws ardaloedd y ddau fwrdd iechyd.