Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru
Wrth i’r negodiadau gychwyn er mwyn ffurfio perthynas y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, dylai hyn gael ei adlewyrchu yn nheitl y Gweinidog sydd â'r prif gyfrifoldeb. O hyn allan, teitl y Gweinidog fydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd. Nid oes unrhyw newidiadau i'w gyfrifoldebau Gweinidogol.