Carwyn Jones, y Prif Weinidog
Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno â Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) ar gyfres o egwyddorion i lywodraethu'r broses o lunio fframweithiau cyffredin i'r DU gyfan mewn amrywiaeth o feysydd sy'n destun gweinyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd (UE) ar hyn o bryd (mae copi ohonynt ynghlwm). Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU i ddatblygu safbwyntiau cyffredin yn y meysydd y cytunwyd arnynt. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno rhestr o feysydd y mae'n ystyried sy'n uniongyrchol berthnasol i'n setliad datganoli ac rydym ninnau’n ystyried ac yn trafod y rhestr honno â hwy (copi hefyd ynghlwm).
Nid yw hyn yn newid ein barn am Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU. Rydym wedi datgan yn gwbl glir wrth Lywodraeth y DU nad yw cytuno ar fframweithiau cyffredin yn golygu ein bod yn derbyn y cyfyngiadau a ddaw ar ddatganoli yn sgil y Bil. Rhaid cael cytundeb rhwng y Llywodraethau Datganoledig a Llywodraeth y DU ar fframweithiau'r DU sy'n cynnwys cyfrifoldebau sydd wedi'u datganoli, ac ni ddylent gael eu gorfodi gan Lywodraeth y DU. Rydym yn dal i fod yn gwbl glir na allwn argymell bod y Cynulliad yn rhoi ei gydsyniad oni fydd y Bil yn cael ei newid yn sylweddol.
Cafodd Llywodraeth Cymru ei chynrychioli yng nghyfarfod Cydbwyllgor y Gweinidogion ar Negodiadau'r UE ar 16 Hydref gan Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd y Cabinet. Damian Green, y Prif Ysgrifennydd Gwladol, oedd yn ei cadeirio’r cyfarfod ac roedd David Davies, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, a chynrychiolwyr o'r Llywodraethau Datganoledig a'r Swyddfeydd Tiriogaethol hefyd yn bresennol. Roedd hwn yn gyfle i drafod y datblygiadau ers y cyfarfod diwethaf, y negodiadau diweddar ar yr UE a pherthynas y DU â'r UE yn y dyfodol.
Cytunodd Cydbwyllgor y Gweinidogion y dylid cyfarfod eto cyn diwedd y flwyddyn. Rydym yn croesawu ailgynnull cyfarfodydd y Cydbwyllgor Gweinidogol fel cam cadarnhaol tuag at feithrin perthynas fwy adeiladol rhwng Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau Datganoledig, a sefydlu trefniadau cydweithio gwell rhyngddynt. Gobeithio bod hyn yn nodi dechrau pennod newydd a chynhyrchiol i ddatblygu agwedd tuag at Brexit sydd wirioneddol yn cynrychioli’r DU gyfan.