Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Yn dilyn y negodiadau llwyddiannus diweddar ar y contract optometreg rhwng Llywodraeth Cymru, GIG Cymru ac Optometreg Cymru ar gyfer 2024-25, rwy'n falch o gadarnhau fy mod wedi cytuno ar y trefniadau ariannol ar gyfer gwasanaethau optometreg, sy'n cynnwys cynnydd ychwanegol o £3.9m ar gyfer y contract eleni.
Mae'r rhain yn adeiladu ar egwyddorion y contract optometreg newydd ac yn sicrhau bod mwy o waith clinigol yn cael ei gyflawni gan wasanaethau optometreg gofal sylfaenol yn hytrach na gwasanaethau gofal llygaid mewn ysbytai. Bydd hyn yn helpu i leihau'r galw a chynyddu'r capasiti i ddarparu gofal llygaid arbenigol.
Eleni, mae'r meysydd a flaenoriaethwyd yn y negodiadau yn cefnogi'r gweithlu i ddarparu llwybrau ychwanegol ym maes optometreg, gan roi pwyslais ar y llwybr glawcoma â niferoedd mawr a chynyddu nifer yr optometryddion sydd â chymwysterau uwch i ddarparu'r gwasanaeth hwn.
Mae'r contract hefyd yn cefnogi uwchsgilio'r proffesiwn optometreg, gan ganolbwyntio ar recriwtio a chadw i gynnal y gweithlu cynaliadwy sydd ei angen i symud gwasanaethau i'r gymuned.
Mae'r uchafbwyntiau penodol yn cynnwys:
- Cymorth ariannol ychwanegol i optometryddion ac optegwyr cyflenwi ar gyfer eu datblygiad proffesiynol parhaus, gyda ffioedd uwch yn gysylltiedig ag ennill cymwysterau uwch a darparu llwybrau Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru (GOCC) 3, 4 a 5;
- Cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer practisau optometreg i helpu ymarferwyr i ennill yr uwch dystysgrif broffesiynol mewn glawcoma – dyma'r maes lle rydym yn gweld y nifer lleiaf o optometryddion â chymwysterau ychwanegol;
- Gwahanu'r ffioedd ar gyfer GOCC 4 rhwng y llwybrau retina meddygol a glawcoma i gydnabod y gwahaniaeth yn y cyfrifoldebau clinigol rhwng y ddau;
- Dyblu'r ffi a delir i bractisau optometreg i ddarparu cymorth a hyfforddiant i fyfyrwyr optometreg (optometryddion cyn-gofrestru), i helpu i hyfforddi a chadw'r gweithlu yng Nghymru.
Mae’r rhain yn cadarnhau trefniadau ariannol y blynyddoedd blaenorol ar gyfer optometreg. Maen nhw hefyd yn cynrychioli cynnydd sylweddol pellach i gefnogi’r gwaith sy’n parhau i ddiwygio optometreg, i gyd-fynd â’r ymrwymiadau a nodir yn Dull Gweithredu ar gyfer Gwasanaethau Optometreg yn y Dyfodol, sy’n seiliedig ar egwyddorion allweddol gofal iechyd darbodus. Yn ei dro, mae hwn yn cyd-fynd â’r Model Gofal Sylfaenol, Cymru Iachach a’r cyfeiriad strategol sydd wedi’i osod yn y Rhaglen Lywodraethu.
Rydym wedi bwrw ymlaen yn gyflym â’r gwaith o ddiwygio’r contract optometreg dros y blynyddoedd diwethaf, drwy fabwysiadu agwedd gadarn wrth gynnal deialog a thrafodaethau â GIG Cymru ac Optometreg Cymru, a thrwy gydweithio â hwy. Drwy weithredu fel hyn, cafodd y canlyniadau gorau o safbwynt pob rhanddeiliad eu cyflawni yn ystod y negodiadau, gan olygu y gall optometryddion weithio hyd eithaf eu trwydded.
Mae Cymru yn parhau i fod ar flaen y gad yn y DU. Mae’n arwain ar ddiwygio yn glinigol o safbwynt sy’n canolbwyntio ar y claf, ac mae’n uwchsgilio’r proffesiwn yn llawn i fwrw ati i ddarparu gwasanaethau clinigol mewn optometreg gofal sylfaenol.