Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn dilyn negodiadau ar y cytundeb optometreg a gynhaliwyd yn ddiweddar rhwng Llywodraeth Cymru, GIG Cymru ac Optometreg Cymru, rwyf yn falch o gadarnhau fy mod wedi cytuno ar wasanaethau optometreg ychwanegol.
Cytunais ar y contract optometreg newydd a'r costau ariannol cysylltiedig y llynedd (Medi 2022). Bydd gwasanaethau optometreg yn newid yn sylweddol yn sgil y contract hwn. Mae'r newid hwn yn cyd-fynd â'r ymrwymiadau a nodir yn y Dull Gweithredu ar gyfer Gwasanaethau Optometreg yn y Dyfodol, ac mae'n seiliedig ar yr egwyddorion allweddol ar gyfer gofal iechyd darbodus, ac yn cyd-fynd â'r Model Gofal Sylfaenol a'r cyfeiriad strategol a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu.
Fel rhan o'r ymgynghoriad a gynhaliwyd yn ddiweddar ar ddiwygio'r contract optometreg, gofynnwyd am farn pobl ar y cynigion i ehangu'r gwasanaethau a ddarperir gan bractisau optometreg gofal sylfaenol ac i lansio'r contract optometreg newydd. Gan ystyried y safbwyntiau a gyflwynwyd, cytunwyd ar ddau ffi ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth yn y cartref a thaleb ychwanegol i blant yn ystod cyfnodau pan fydd eu golwg yn datblygu. Trafodwyd meysydd polisi pellach a chytunwyd arnynt. Caiff y meysydd hyn eu datblygu dros y misoedd nesaf.
Bydd y gwasanaethau ychwanegol yn ehangu'r gwasanaethau clinigol a ddarperir gan optometryddion, ar y cyd ag adrannau llygaid mewn ysbytai. Drwy hyn, rhoddir sicrwydd i GIG Cymru y bydd y ddarpariaeth yn deg, yn gyson ac yn amserol i ddinasyddion ym mhob cwr o Gymru.
Rydym wedi bwrw ymlaen ar fyrder â'r gwaith o ddiwygio'r contract optometreg dros y 12 mis diwethaf, drwy ddeialog gadarn, trafodaethau a chydweithio â GIG Cymru ac Optometreg Cymru. Drwy hyn sicrhawyd ein bod yn cyflawni'r canlyniadau gorau i'r holl randdeiliaid yn ystod y negodiadau.
Bydd y gwasanaethau optometreg ychwanegol hyn yn rhoi cyfle i optometryddion cymunedol weithio hyd eithaf eu trwydded ac yn sicrhau bod Cymru'n parhau i fod ar flaen y gad yn y DU, gan arwain y gwaith o ddiwygio gwasanaethau mewn modd clinigol, o safbwynt sy'n canolbwyntio ar y claf. Y nod yw gwneud Cymru y wlad gyntaf yn y DU i uwchsgilio'r proffesiwn yn llawn er mwyn ymroi'n llwyr i'r syniad o ddarparu gwasanaethau clinigol yn y sector optometreg gofal sylfaenol.